Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad Met Caerdydd
1. Cyd-destun
- 1.1. Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi gyrfa a pherfformiad myfyrwyr sy’n athletwyr.
- 1.2. I gydnabod bod yn rhaid i ymgeiswyr sy'n cystadlu ar lefel perfformiad gydbwyso eu hastudiaethau ag ymrwymiadau chwaraeon, mae Met Caerdydd yn cynnig Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad sy'n lleihau ein gofynion mynediad i'r myfyrwyr hyn.
- 1.3. Lle mae Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) yn gosod tariffau mynediad yn benodol, ni fydd unrhyw newid yn cael ei osod o dan y gofynion PSRB cyhoeddedig.
- 1.4 Mae'r polisi'n berthnasol i geisiadau yn ystod y prif gylch i bob rhaglen israddedig ar draws pob cwrs ac ysgol.
- 1.5. Mae'r polisi'n berthnasol i bob math o chwaraeon, gyda meini prawf penodol ar gyfer ein rhaglenni perfformiad, a meini prawf a rennir ar gyfer chwaraeon eraill.
2. Y broses
- 2.1. Dylai ymgeiswyr wneud cais i Met Caerdydd trwy'r broses ymgeisio arferol (UCAS). Hyd nes y derbynnir cais, ni ellir ystyried cynnig gostyngol.
- 2.2. Bydd ymgeiswyr yn derbyn cynnig cychwynnol trwy UCAS ac yna'n cael eu hystyried o dan y Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad unwaith y bydd cais ar gyfer y cynllun wedi'i dderbyn.
- 2.3. Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno cael eu hystyried o dan y Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad lenwi’r ffurflen gais Chwaraeon Perfformiad, a fydd yn cael ei hanfon at ymgeiswyr a’i chynnwys ar dudalennau gwe Met Caerdydd.
- 2.4. Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu gan aelod staff perthnasol ar y rhaglen berfformiad a/neu’r Pennaeth Systemau Chwaraeon.
- 2.5. Os yn gymwys am gynnig gostyngol, bydd y cynnig cychwynnol yn cael ei ddiweddaru ar UCAS a bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan y tîm derbyniadau.
- 2.6. Oherwydd nifer y ceisiadau a'r broses dderbyn gyffredinol, os nad yw'r ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf ac heb dderbyn cynnig gostyngol, gallant gymryd yn ganiataol y bydd eu cynnig UCAS gwreiddiol yn parhau.
3. Cyfyngiadau
- 3.1. Gall yr ymgeisydd gael gostyngiad o ddim mwy na dwy radd i gyd drwy'r polisi hwn a pholisïau cynigion cyd-destunol eraill. Gall y polisi hwn ddarparu gostyngiad gradd un neu ddau. Fodd bynnag, os oes gan ymgeisydd gynnig llai o un radd eisoes, dim ond un radd arall y gallant ei gael trwy'r polisi hwn.
- 3.2. Ni ellir defnyddio'r Polisi Cyd-destunoli a'r Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad yn gronnol. Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf i ostwng un radd o dan y ddau bolisi yn derbyn cynnig un radd yn is na gofynion mynediad safonol y rhaglen.
- 3.3. Nid yw cynnig gostyngol yn effeithio ar y broses dewis ar gyfer ein rhaglenni perfformiad neu dimau eraill.
- 3.4. Nid yw cynnig gostyngol yn effeithio ar y broses dyfarnu ysgoloriaethau chwaraeon.
- 3.5. Ar ôl derbyn cynnig gostyngol, mae disgwyl o hyd i ddarpar fyfyrwyr fodloni’r gofynion mynediad gostyngol ac ni fydd unrhyw addasiad pellach o dan y polisi hwn.
- 3.6. Mewn amgylchiadau eithriadol bydd gan y Pennaeth Systemau Chwaraeon yr hawl, ar ôl trafod gyda’r Ysgol y daw’r cwrs oddi tano, yn seiliedig ar gais ffurfiol, i argymell darpar fyfyriwr ar gyfer cynnig gostyngol y tu allan i’r ffiniau uchod a dim ond gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Chwaraeon.
- 3.7. Nid yw'r polisi hwn yn disodli Polisi Gohirio Met Caerdydd. Mae ymgeiswyr sy'n derbyn cynnig llai o dan y polisi hwn yn dal i allu gofyn am ohirio, lle maent yn cwrdd ag amodau'r cynnig yn y flwyddyn y maent yn gwneud cais, yn unol â'n polisi gohirio cyfredol.
- 3.8 Nid yw'r polisi hwn yn cynnwys ceisiadau a gyflwynir drwy'r system Glirio.
4. Meini prawf
- 4.1. Os bydd ymgeisydd yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf, bydd eu cynnig yn cael ei
ostwng o un radd. Os bydd ymgeisydd yn bodloni’r holl feini prawf neu’n rhagori’n sylweddol
ar y meini prawf gofynnol, gellir lleihau eu cynnig o uchafswm o ddwy radd. Gweler 3.1 am y
gostyngiadau cyffredinol mwyaf mewn graddau. - 4.2. I fod yn gymwys rhaid i ddarpar fyfyrwyr fodloni'r meini prawf ar gyfer eu chwaraeon
unigol.- Athletau - Wedi cyrraedd yr 8 uchaf ym Mhencampwriaethau Athletau dan 20 Lloegr. Mewn
amgylchiadau eithriadol byddwn yn ystyried PBs dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn
perthynas â pherfformiadau terfynol Pencampwriaeth BUCS yn y gorffennol. - Pêl-fasged Merched - Profiad ar un o’r lefelau canlynol neu ar lefel uwch:
-
Cynghrair Pêl-fasged Academi Elît y Merched (WEABL)
-
Lefel Llwybr Rhanbarthol Aspire
-
Lefel Tîm Cenedlaethol
-
- Pêl Fasged Cadair Olwyn – Profiad o gystadlu mewn unrhyw gynghrair a gydnabyddir gan Bêl-fasged Cadair Olwyn Prydain gan gynnwys y Gynghrair Genedlaethol Iau, y Gynghrair Genedlaethol a Chynghrair y Merched.
- Criced Dynion - Profiad ar un o’r lefelau canlynol neu ae lefel uwch:
-
Wedi'u dewis fel rhan o academi sirol dosbarth cyntaf yn ystod y 2 flynedd
ddiwethaf -
Wedi cynrychioli eu gwlad, tim 1af, 2il XI neu dîm 1af XI Sir Genedlaethol
-
Ystyrir cynrychiolaeth ryngwladol gwahanol
-
- Pêl-droed Dynion - Profiad o chwarae ar un o'r lefelau canlynol;
-
Uwch Gynghrair Cymru
-
Cam 3 neu uwch yn system cynghrair yr FA
-
- Pêl-droed Merched - Profiad ar un o'r lefelau canlynol neu ar lefel uwch:
-
Gwledydd Cartref dan 17 oed
-
Haen 1 tîm Cymru
-
Haen 3 neu uwch tîm Lloegr
-
Profiad presennol o fewn adran hŷn o Glwb Pêl-droed Merched Met Caerdydd
-
- Hoci Dynion - Profiad ar un o'r lefelau canlynol neu ar lefel uwch:
-
Gwledydd Cartref (ENG, SCO, WAL) D18-Uwch
-
Gwledydd Ewropeaidd (GER, NED, BEL, FRA, ESP, AUT, IRL) O dan 18-Hŷn
-
Gweddill y Byd (MAS, IND, RSA, ARG, JPN, KOR, AUS, NZL, CHI, CAN, UDA) O dan 16-
-
Hŷn
-
Rhaglen Datblygu Elitaidd Prydain Fawr (EDP)
-
Uwch Gynghrair Genedlaethol Cynghrair Hoci Lloegr neu Adran 1 Gogledd/De
-
- Hoci Merched - Profiad ar un o'r lefelau canlynol neu ar lefel uwch:
-
Gwledydd Cartref (ENG, SCO, WAL) D18-Uwch
-
Gwledydd Ewropeaidd (GER, NED, BEL, FRA, ESP, AUT, IRL) O dan 18-Hŷn
-
Gweddill y Byd (MAS, IND, RSA, ARG, JPN, KOR, AUS, NZL, CHI, CAN, UDA) O dan 16-
-
Hŷn
-
Rhaglen Datblygu Elitaidd Prydain Fawr (EDP)
-
Uwch Gynghrair Genedlaethol Cynghrair Hoci Lloegr neu Adran 1 Gogledd/De
-
- Pêl-rwyd - Profiad ar un o'r lefelau canlynol neu lefel uwch:
-
Gwledydd cartref dan 19 neu dan 21 oed
-
Tîm dan 19 neu dan 21 yr Uwch Gynghrair Cenedlaethol
-
Pêl-rwyd Lloegr Uwch Gynghrair 1
-
- Undeb Rygbi’r Dynion – Profiad ar un o’r lefelau canlynol neu ar lefel uwch:
-
Chwaraewr academi amser llawn neu ran amser
-
Cytundeb Academi'r Brifysgol
-
Gradd Oedran Rhyngwladol
-
Chwaraewyr Rhanbarthol neu Uwch Gynghrair dan 18 neu gyfatebol (ac eithrio cynlluniau AASE).
-
- Rygbi Merched - Profiad ar un o’r lefelau canlynol neu ar lefel uwch:
-
Rygbi Elît Merched (RFU)
-
Lefel Llwybr Rhanbarthol (URC)
-
Grŵp oedran gwledydd cartref
-
Rhan o Ganolfan Datblygu Chwaraewyr URC (PDC)
-
- Triathlon – Wedi gorffen ymhlith y 40 uchaf yn nigwyddiadau Cyfres Elite Youth/Junior Super Prydain.
- Chwaraeon eraill - Dylai ymgeiswyr gwrdd ag un o'r canlynol:
-
-
Wedi'u dewis fel rhan o Lwybr Perfformiad Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol
-
Meddu ar lefelau perfformiad sy'n dangos gallu i ennill medalau ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol BUCS
-
Wedi cynrychioli eu gwlad ar lefel ryngwladol (grŵp oedran)
-
-
- Athletau - Wedi cyrraedd yr 8 uchaf ym Mhencampwriaethau Athletau dan 20 Lloegr. Mewn