Gofynion Mynediad
Byddwn yn anelu at gyflwyno gwybodaeth mor syml â phosibl ac mae'r canllaw canlynol yn rhoi trosolwg byr o'r math o gymwysterau a fydd yn cael eu derbyn gennym. Ceir mwy o wybodaeth gan Derbyniadau. Gweler ein datganiad Diwygio Cymwysterau am fanylion pellach.
I gael mynediad i'n rhaglenni, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 fel rheol. Rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o wahanol gyfuniadau. Gellir dod o hyd i wybodaeth benodol am ofynion mynediad ar ein tudalennau cwrs.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt o reidrwydd yn meddu ar y cymwysterau academaidd gofynnol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, os ydych chi wedi bod allan o fyd addysg am fwy na phum mlynedd, efallai y bydd angen Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu debyg mewn pwnc perthnasol arnoch.
Bydd angen cymhwyster sy'n dderbyniol gan y Brifysgol ar fyfyrwyr o'r UE a’r tu hwnt a fydd yn nodi eu gallu i astudio drwy gyfrwng yr iaith Saesneg er mwyn gallu cwblhau eu dewis gwrs yn llwyddiannus. Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf fodloni meini prawf Iaith Saesneg cwrs penodol fel IELTS.
Mae Met Caerdydd yn cydnabod cywerthedd y cymwysterau a ddyfernir ym mhob gwlad sy’n aelod o'r UE a’r tu hwnt, a gall ymgeiswyr ymweld â'n tudalennau we Rhyngwladol am wybodaeth bellach.
TGAU
Yn gyffredinol, gofynnwn am bum TGAU neu radd gyfwerth ar lefel Gradd C / 4 neu uwch ar gyfer mynediad i’r mwyafrif o’n rhaglenni, i gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg. Bydd rhai rhaglenni'n gofyn am TGAU Gwyddoniaeth hefyd.
Mae myfyrwyr Cymru yn gallu astudio a sefyll dau arholiad TGAU Mathemateg; Mathemateg a Mathemateg – Rhifedd. Bydd Met Caerdydd yn derbyn naill ai Mathemateg neu Fathemateg – Rhifedd TGAU, neu'r ddau, ar gyfer mynediad i’r mwyafrif o’n rhaglenni.
Lefelau UG
Mae Lefelau UG wedi eu hailstrwythuro i fod yn 40% o Safon Uwch, a byddwn yn parhau i ystyried y cais cyflawn. Ni fydd Met Caerdydd yn cyfrif pwyntiau ar sail Lefel UG os yw ymgeisydd wedi symud ymlaen i'r Safon Uwch lawn.
Safon Uwch/BTEC
Mae cyfran helaeth o'n myfyrwyr yn cael mynediad i Met Caerdydd gyda thair cymhwyster Safon Uwch neu Ddiploma Lefel 3 BTEC. Byddwn hefyd yn ystyried cyfuniadau o'r cymwysterau yma ar gyfer mynediad i'n Rhaglenni.
Bagloriaeth Cymru
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n cwblhau'r Fagloriaeth Gymraeg Uwch ochr yn ochr â Safon Uwch neu gymwysterau galwedigaethol. Ar gyfer mynediad o 2017 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei graddio a phwyntiau tariff sy'n hafal i Safon Uwch yn cael eu dyfarnu.
Cymhwyster Prosiect Estynedig
Oherwydd ehangder ychwanegol yr astudiaeth a ddaw yn sgil Cymhwyster y Prosiect Estynedig (EPQ), rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi astudio'r Prosiect Estynedig ochr yn ochr â Safon Uwch neu gymwysterau galwedigaethol. Dylech sicrhau eich bod yn rhestru'r cymhwyster hwn ar eich ffurflen UCAS fel y gellir ei ystyried fel rhan o'ch cais cyflawn.
Mynediad i Ddiploma Addysg Uwch
Rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â chymwysterau Mynediad i AU, ac mae'n arbennig o addas ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi bod y tu allan i fyd addysg am gyfnod o amser. Bydd angen cymwysterau Saesneg a/neu Fathemateg ychwanegol arnoch fel TGAU ar gyfer rhai rhaglenni.
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB)
Mae Met Caerdydd yn hapus i dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n astudio'r Diploma IB. Bydd rhai rhaglenni'n gofyn am bynciau penodol yn yr IB a graddau ar lefel Uwch (HL).
Irish Leaving Certificate
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n astudio'r Irish Leaving Certificate. Bydd gofynion penodol yn amrywio yn ôl y Rhaglen, byddwn yn ystyried pynciau H4 neu'n uwch. Mae angen lefel gyffredin O4 neu uwch neu lefel Uwch H6 neu uwch mewn iaith Saesneg a Mathemateg ar gyfer mynediad i'n rhaglenni Israddedig.
Scottish Highers
Rydym yn ystyried Advanced Highers yr Alban, Highers yr Alban a chymwysterau eraill o’r Alban sy'n cwrdd â'n gofynion mynediad. Byddwn yn derbyn Graddau Safonol, Canolradd 2 a'r cymhwyster Cenedlaethol 5 newydd fel cywerthedd TGAU ar ein rhaglenni.
I gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad penodol i gwrs, edrychwch ar ein tudalennau cwrs.