Darparu Tystiolaeth o'ch Cymwysterau
Ar ôl i chi dderbyn cynnig gan Met Caerdydd, a phenderfynu derbyn ein cynnig, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a restrir ar eich cais.
Bydd angen i Derbyniadau wirio'ch cymwysterau erbyn Awst 31ain, gan gynnwys eich TGAU neu gymwysterau cyfwerth. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw drwy anfon eich Rhif Dysgwr Unigryw (ULN) atom, fel y gallwn wirio'ch cymwysterau trwy eich Cofnod Dysgu Personol (PLR). E-bostiwch eich ULN at Dderbyniadau. Os nad oes gennych ULN, ceir rhestr gwybodaeth bellach isod am yr hyn y gallwn ac na allwn ei dderbyn fel prawf o'ch cymwysterau, yn ogystal â sut i’w anfon at Derbyniadau.
Os ydych chi'n gorffen eich astudiaethau yr haf hwn, dylem dderbyn cadarnhad o'ch canlyniadau gan UCAS. Os na dderbyniwn eich canlyniadau am unrhyw reswm, neu os na fyddwn yn eu derbyn mewn pryd, cysylltir â chi i ddarparu tystiolaeth. Nid ydym yn derbyn canlyniadau TGAU wedi ail-sefyll gan UCAS, felly os ydych yn disgwyl y canlyniadau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon cadarnhad o'ch canlyniadau at Derbyniadau yn syth ar ôl eu derbyn.
Os ydych wedi derbyn cynnig diamod yn dilyn cyfweliad, bydd angen i chi anfon eich cymwysterau atom o hyd.
Os na fyddwn wedi gallu gwirio'ch cymwysterau cyn diwedd mis Awst, gallai hyn arwain at beidio â chadarnhau eich lle a chithau’n methu â chasglu eich Cerdyn Met yn ystod eich wythnos Sefydlu.
Bydd angen i Derbyniadau wirio'ch holl gymwysterau erbyn Awst 31ain, gan gynnwys eich TGAU neu gymwysterau cyfwerth.
Os mai cynnig amodol sydd gennych ar sail canlyniad gradd gyntaf, bydd angen i chi roi prawf o hyn i ni cyn gynted â phosibl. Os ydych chi'n fyfyriwr cyfredol ym Met Caerdydd, neu wedi graddio oddi yno’n ddiweddar, byddwn yn gwirio canlyniad eich gradd israddedig ar ôl ei gyhoeddi.
Isod, ceir rhestr o wybodaeth bellach isod am yr hyn y gallwn neu na allwn ei dderbyn fel prawf o'ch cymwysterau, yn ogystal â sut i'w hanfon at Derbyniadau. Bydd methu â darparu prawf o gymwysterau cymwys yn golygu na fydd eich lle yn cael ei gadarnhau.
Mae angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cymwysterau i Derbyniadau bedair wythnos cyn dechrau eich rhaglen. Fe’ch hysbysir o unrhyw amodau cymhwyster penodol sy'n gysylltiedig â'ch cynnig drwy system 'Hunanwasanaeth' Met Caerdydd a'ch llythyr cynnig.
Os yw'ch cynnig yn amodol ar ganlyniad gradd gyntaf, bydd angen i ni dderbyn prawf o hyn cyn gynted â phosibl. Os ydych chi'n fyfyriwr cyfredol ym Met Caerdydd, neu wedi graddio oddi yma'n ddiweddar, byddwn yn gwirio canlyniad eich gradd israddedig ar ôl cyhoeddi’r canlyniad.
Isod, ceir rhestr o wybodaeth bellach am yr hyn y gallwn ac na allwn ei dderbyn fel prawf o'ch cymwysterau, yn ogystal â sut i'w hanfon at Derbyniadau. Bydd methu â darparu prawf o gymwysterau cymwys yn golygu na ellir cadarnhau eich lle.
Math o ddogfen | Derbyniol? | |
Tystysgrifau - rhai gwreiddiol / copïa | Ydyn | Mae copïau o ansawdd da yn dderbyniol |
Slip / Datganiad o Canlyniadau | Ydyn | Rhaid dangos llofnod a stamp gwreiddiol yr ysgol/coleg |
Rhif Dysgwr Unigryw | Ydyn | Ar yr amod nad ydych wedi optio allan i rannu eich gwybodaeth |
Llythyr gan yr ysgol/coleg | Ydyn | Rhaid bod ar bapur pennawd swyddogol â llofnod gwreiddiol |
Datganiad Ardystio Canlyniadau | Ydyn | Gellir holi Byrddau Arholiad amdano a bydd yn rhaid talu ffi a wynebu oedi o nifer o wythnosau wrth brosesu |
Llythyr Cadarnhad | Ydyn | Gellir holi Byrddau Arholiad amdano a bydd yn rhaid talu ffi a nifer o wythnosau o oedi wrth brosesu |
Tystysgrifau/Trawsgrifiadau Amnewid | Ydyn | Gellir gofyn amdano gan y brifysgol flaenorol |
E-bost cadarnhaol gan yr ysgol/coleg | Nac ydy | |
Dogfennau wedi'u hargraffu oddi ar wefan/cyfrif sefydliad | Nac ydy | Oni bai bod llofnod a stamp gwreiddiol gan y sefydliad fel dilysiad |
Dogfen SIMS ysgol/coleg | Nac ydy | Oni bai bod arni lofnod a stamp dilysu gwreiddiol gan y sefydliad |
Unrhyw ddogfen nad yw'n dangos enw llawn yr ymgeisydd yn glir | Nac ydy | |
Y ffordd hawsaf i ni gael golwg a gwirio eich canlyniadau yw drwy anfon eich Rhif Dysgwr Unigryw (ULN)atom, fel y gallwn wirio'ch cymwysterau trwy eich Cofnod Dysgu Personol (PLR). E-bostiwch eich ULN at Dderbyniadau. Os nad oes gennych eich rhif ULN, gallwch:
E-bostio
Sganiwch ac e-bostiwch eich dogfennau at: offers@cardiffmet.ac.uk, os gwelwch yn dda. Gallwch hefyd e-bostio'ch rhif ULN yma.
Postio
Gallwch bostio copïau neu dystysgrifau gwreiddiol at:
Admissions
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Rhodfa'r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YB
Os ydych chi'n anfon tystysgrifau gwreiddiol, rydym yn argymell eich bod chi'n defnyddio Post cofrestredig. Byddwn hefyd yn dychwelyd eich dogfennaeth drwy’r Post cofrestredig.
Parth-g
Galwch heibio i'n parth-g, ar Gampws Llandaf neu Cyncoed, lle gall y staff wneud copïau o'ch tystysgrifau.
- Cardiff Met parth-g, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YB - Ffôn: 029 2020 5600
- Cardff Met parth-g, Campws Cyncoed, Ffordd Cyncoed, Caerdydd, CF23 6XD - Ffôn: 029 2020 5460
Os yw'ch tystysgrifau mewn cyfenw gwahanol neu os yw’ch enw wedi’i sillafu’n wahanol i’r hyn sydd ar eich cais, bydd angen cadarnhad pellach e.e. tystysgrif priodas, genedigaeth neu fabwysiadu, affidafid neu ddogfen gyfreithiol newid enw. Os nad oes gennych unrhyw ddogfennaeth swyddogol o'r newid enw, gall Derbyniadau dderbyn llun gyda dilysiad gan eich ysgol neu goleg yn cadarnhau'r newid.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Derbyniadau ar +44 (0)29 2041 6010 neu anfonwch e-bost at holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.