Gweithdrefnau ar gyfer rhaglenni nad oes angen DBS
Gofynnir i ymgeiswyr am gyrsiau nad oes angen gwiriad cofnodion troseddol arnynt am wybodaeth, ar ôl ateb Cadarn i gynnig, am gyfyngiadau a/neu gyfnod prawf sydd wedi'u gweithredu’n dilyn euogfarn.
Cyfeirir ymgeiswyr at y Datganiad(au) Euogfarn Droseddol Ymgeisydd - Profforma, y dylid ei ddychwelyd i'r Pennaeth Derbyn cyn pen 14 diwrnod gwaith ar ôl eu derbyn. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.
Mae angen hysbysu Met Caerdydd am unrhyw gyfyngiadau a fyddai'n atal ymgeiswyr a myfyrwyr rhag ymgymryd neu symud ymlaen â'u hastudiaethau. Gall cyfyngiadau gynnwys:
- Cyfyngiad(au) a osodwyd arnynt sy'n cyfyngu ar fynediad i'r rhyngrwyd neu'n cyfyngu ar ddefnydd cyfrifiadur
- Dyfais tag electronig
- Cyrffyw
- Gwaharddebau
- Gorchmynion Atal neu Amddiffyn
Gorchmynion Cymunedol - gan gynnwys Goruchwylio, Gwaith Di-dâl (Gwneud Iawn â’r Gymuned), Rhaglen (cwrs i'ch helpu i roi'r gorau i droseddu), Adsefydlu Cyffuriau, Triniaeth Alcohol, Cyrffyw, Preswyliad, Gweithgaredd, Gwaharddiad, Gweithgaredd Gwaharddedig, Triniaeth Iechyd Meddwl, Canolfan Bresenoldeb (i rai dan 25 oed) ).
Gall ymgeiswyr hefyd gael cyngor ynghylch a yw cyfyngiad yn berthnasol ai peidio, ac a ddylid ei ddatgan, trwy gysylltu â'r elusen Unlock - http://www.unlock.org.uk/.
Gellir cael gwybodaeth hefyd gan yr elusen lleihau troseddau Cymdeithas Genedlaethol Gofal ac Ailsefydlu Troseddwyr (NACRO) -http://www.nacro.org.uk/.
Ewch i bolisi Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ymwneud â rhaglenni nad oes angen DBS isod ynglŷn â delio ag ymholiadau yn ymwneud ag euogfarnau:
- Nid yw cyfyngiadau neu ofynion cyfnod prawf o reidrwydd yn eich hatal rhag astudio.
- Ar ôl i gynnig gael ei wneud, a'ch bod wedi ateb Cadarn, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am gyfyngiadau a/neu ofynion cyfnod prawf a allai effeithio ar eich cynnig yn symud yn ei flaen. Gofynnir i chi ddatgelu'r wybodaeth trwy gwblhau profforma a'i dychwelyd cyn pen 14 diwrnod o'i derbyn.
- Pan fydd yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chasglu, bydd yn cael ei hadolygu gan y Pennaeth Derbyn a fydd yn cynnal asesiad risg, ac yn cael cyngor gan y Gwasanaethau Myfyrwyr a'r Gofrestrfa. Os bernir bod angen hynny, trefnir cyfarfod gyda chi i gael gwybodaeth ychwanegol.
- Wrth gynnal asesiad risg, bydd difrifoldeb y cyfyngiadau a/neu'r cyfnod prawf yn cael eu hystyried, ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall a gynigir gennych am yr amgylchiadau a arweiniodd at ganlyniad y cyfyngiadau a'r cyfnod prawf, ac a fyddai'r rhain yn eich gwahardd rhag y cyfleoedd cyflogaeth sy’n gysylltiedig â'r cwrs.
- Os penderfynir y bydd y cyfyngiadau a osodir a / neu'r gofynion prawf yn golygu na fydd Met Caerdydd yn gallu cadarnhau eich lle, bydd y canlyniad a'r wybodaeth ynlŷn â pham y gwnaed y penderfyniad hwn yn cael ei hysbysu.
- Bydd hysbysiad o'r canlyniad yn cael ei anfon i chi cyn pen 14 diwrnod ar ôl derbyn yr holl wybodaeth. Pe bai'r broses yn cymryd mwy na 14 diwrnod, cewch eich hysbysu o'r amser ychwanegol sydd ei angen.
- Er y gall y panel benderfynu bod yr ymgeisydd yn addas i ymgymryd â'r rhaglen, mae angen i ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gall partneriaid sy'n cynnig lleoliadau gwaith gymhwyso eu meini prawf eu hunain na fydd efallai'n cyd-fynd â dyfarniad Met Caerdydd ynghylch y lleoliad.
Os nad yw ymgeiswyr yn hapus â chanlyniad y broses, dylid cyfeirio at weithdrefn gwynion Caerdydd Metropolitan.
Os cewch eich dyfarnu'n euog o drosedd, neu os ydych yn destun ymchwiliad gan yr Heddlu am gyflawni trosedd o'r fath, yn ystod eich astudiaethau, gofynnir i chi ddatgelu hyn i'r Gwasanaethau Cofrestrfa cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn ofynnol gan fod gan y Brifysgol ddyletswydd gofal i'r holl fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr, a byddai'r Gwasanaethau Myfyrwyr eisiau sicrhau eich bod yn cael y cymorth lles priodol. Os ydych chi'n astudio cwrs y cynhaliwyd gwiriad DBS ar ei gyfer, byddwch wedi cael gwybod am weithdrefnau perthnasol ar gyfer datgelu trosedd.
Pe bai'r Brifysgol yn dod yn ymwybodol o amgylchiadau ffeithiol euogfarn droseddol na thynnwyd ein sylw ati fel yr amlinellwyd uchod, gellir gweithredu'r Weithdrefn Ddisgyblu Myfyrwyr.