Skip to content

Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Yn naturiol, mae angen bod yn arbennig o ofalus ynghylch cymeriad a chefndir unrhyw un y bydd ei waith neu ei hyfforddiant yn dod â nhw i gysylltiad â phobl fregus. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig nifer o gyrsiau sy’n gofyn i fyfyrwyr dreulio cryn dipyn o amser yn gweithio gyda phlant neu bobl fregus. O ganlyniad, mae'n ofynnol i ymgeiswyr sy'n derbyn cynnig ar gyfer un o'r rhaglenni hyn (ac sy'n bwriadu ymgymryd â’u lle) gael gwiriad cofnodion troseddol cyn dechrau astudio.

Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn prosesu ceisiadau ac yn cyhoeddi gwiriadau cofnodion troseddol a gwahardd ar gyfer Cymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Am fwy o wybodaeth am y DBS cyfeiriwch at https://www.homeoffice.gov.uk/dbs a darllenwch y wybodaeth a ddarperir isod:​​

Os yw'ch cwrs yn golygu eich bod chi'n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc neu fregus, gofynnir i wiriad cofnodion troseddol gael ei gynnal.

Gofynnir i bob ymgeisydd a fydd yn astudio ym meysydd Addysg, Gwyddor Gofal Iechyd, Tai, Gofal Iechyd Cyflenwol, Dieteg, Podiatreg, Gwaith Cymdeithasol, Seicoleg Fforensig a Therapi Lleferydd ac Iaith gael eu gwirio.

Mae rhain yn cynnwys euogfarnau, rhybudd, gorchymyn caeth, cerydd, rhybudd terfynol, gorchmynion rhwymo neu debyg sy'n ymwneud ag un neu fwy o'r canlynol:

  • Unrhyw fath o drais gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ymddygiad bygythiol, troseddau’n ymwneud â'r bwriad i niweidio neu droseddau a arweiniodd at niwed corfforol gwirioneddol
  • Troseddau a restrir dan y Ddeddf Troseddau Rhyw 2003
  • Cyflenwad anghyfreithlon o gyffuriau neu sylweddau rheoledig lle mae'r drosedd yn ymwneud â delio neu fasnachu cyffuriau masnachol
  • Troseddau sy'n ymwneud â gynnau
  • Troseddau sy'n ymwneud â llosgi bwriadol
  • Troseddau a restrir dan Ddeddf Terfysgaeth 2006

Ni chaiff rhybuddion, hysbysiadau cosb am anhrefn (PNDs), gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBOs) na gorchmynion troseddwyr treisgar (VOOs) eu hystyried fel euogfarnau at ddiben yr adran hon, oni bai eich bod wedi dadlau yn erbyn PND neu wedi torri telerau ASBO neu VOO gan arwain at euogfarn droseddol.

Os oedd eich euogfarn yn cynnwys trosedd debyg i'r rhai a nodwyd uchod, ond wedi'i dyfarnu gan lys y tu allan i Brydain Fawr, a’r euogfarn honno heb gael ei hystyried fel pe bai wedi dod i ben o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, dylech nodi euogfarn.

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn defnyddio'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i wirio cofnodion troseddol fel y gellir ei hysbysu o unrhyw gollfarnau perthnasol, h.y. yr euogfarnau hynny am droseddau yn erbyn yr unigolyn, p'un ai ydynt o natur dreisgar neu rywiol ac euogfarnau am droseddau yn cynnwys cyflenwi cyffuriau neu sylweddau rheoledig yn anghyfreithlon lle mae'r euogfarn yn ymwneud â delio neu fasnachu cyffuriau masnachol (fel y manylir uchod).

Anfonir cyfarwyddiadau at ymgeiswyr sy'n derbyn cynnig, ac sy'n Cadarnhau, ar sut i gynnal a chwblhau gwiriad DBS electronig trwy Ddatgeliadau Ar-lein First Advantage.

Ni fydd euogfarn yn eich gwahardd yn awtomatig rhag dod yn fyfyriwr ym Met Caerdydd, ond bydd angen gwybodaeth ychwanegol er mwyn dilyn gweithdrefnau i wneud penderfyniad ynglŷn ag addasrwydd ymgeisydd ar gyfer y dewis gwrs.

Disgwylir i ymgeiswyr sydd wedi byw fel oedolyn (18+) mewn gwlad arall am fwy na 12 mis yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf ddarparu gwiriad troseddol o’r wlad honno. Ar hyn o bryd ni all y DBS ofyn am gofnodion troseddol tramor na gwybodaeth berthnasol arall fel rhan o'i gwasanaeth datgelu. Ceir gwybodaeth mewn perthynas â gweithdrefnau tramor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) ar https://www.gov.uk/fco/ sy'n rhestru gwefannau pob llysgenhadaeth ac Uchel Gomisiwn lle mae gwybodaeth ynglŷn â sut y gellir dod o hyd i'r canllawiau cyfredol ar gyfer gwneud cais.

Cyfeiriwch hefyd at wiriad cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor am arweiniad pellach ynglŷn â sut i gael y dystysgrif neu'r llythyr perthnasol.

Dylai ymgeiswyr geisio cael y canlynol (ar gost yr ymgeisydd):

  • Tystysgrif ymddygiad da' (gwiriad cofnodion yr heddlu) gan yr awdurdodau perthnasol yn cadarnhau nad oes gan yr ymgeisydd gofnod troseddol o'i wlad enedigol.
  • Dilysiad o 'dystysgrif ymddygiad da' gan y Gonswliaeth berthnasol ar gyfer y wlad honno yn y DU (ar gost yr ymgeisydd).

Rhaid cyfieithu pob dogfen dramor (ar gost yr ymgeisydd) o'r iaith berthnasol i'r Saesneg. Dylai ymgeiswyr gysylltu â'r llysgenhadaeth dramor berthnasol i gael mwy o wybodaeth ynghylch dilysu dogfennau.

Er mwyn cyflawni gofynion derbyn dramor (gan gynnwys yr UE) bydd yn ofynnol i ymgeiswyr nad ydynt erioed wedi byw yn y DU, gynnal gwiriad DBS Uwch ar ôl iddynt symud i'r DU, a chael cyfeiriad yn y DU gan na all y DBS ymgymryd â gwiriad y DU oni ddarperir cyfeiriad yn y DU.

Ymgeiswyr Tramor ond wedi byw yn y DU

Mae'r Brifysgol yn rhoi’r cyfrifoldeb o ddarparu cofnodion o hanes troseddol yn eu mamwlad yn ogystal â chynnal gwiriad cofnodion troseddol o;u hamser yn y DU ar ymgeiswyr sydd wedi bod yn preswylio yn y DU am gyfnod byr.

Os ydych chi wedi byw fel oedolyn (18+) mewn gwlad arall at ddibenion gwaith neu wyliau am gyfnod o fwy na 12 mis yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, bydd disgwyl i chi gael gwiriad heddlu yn y wlad rydych chi wedi byw ynddi.

Mae angen gwiriad DBS Uwch ar y rhai sy'n byw yn y DU, a dylai’r rhai sy'n byw y tu allan i'r DU gyfeirio at y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) ar https://www.gov.uk/fco/ sy'n rhestru gwefannau pob llysgenhadaeth ac Uchel Gomisiwn lle gellir dod o hyd i wybodaeth am y cannllawiau cyfredol ar gyfer gwiriadau'r heddlu.

Gellir cyfeirio hefyd at y gwiriad cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor am arweiniad pellach ynglŷn â sut i gael y dystysgrif neu'r llythyr angenrheidiol.

Ceir gwybodaeth ychwanegol ar y ddolen gwiriad cofnod troseddol ar gyfer ymgeiswyr sy'n tarddu o'r tu allan i'r DU uchod.

Gellir rhoi lle ar gwrs i ymgeisydd ag euogfarn droseddol, er y gallai‘r lleoliadau a gynigir yn ystod y radd a chofrestriadau proffesiynol ar ôl graddio gael eu heffeithio. Cynghorir ymgeiswyr i ymchwilio, cyn gwneud cais, er mwyn gwirio gofynion proffesiynol. Yn achos y cyrsiau hynny lle mae angen cofrestru'n llwyddiannus gyda'r Proffesiwn Iechyd neu'r Cyngor Gweithlu Addysg, bydd angen i fyfyrwyr wneud cais ar wahân i’r corff. Ar y pwynt hwnnw, adolygir yr achos gan ddod i benderfyniad ynglŷn â derbyn y cais a’i gofrestru neu beidio.

Os ydych wedi cyflawni trosedd fel a nodir uchod, ar ôl i chi wneud cais i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, rhaid i chi hysbysu Derbyniadau.

Caniateir i'ch cofrestriad gyda'r brifysgol symud ymlaen dros dro. Fodd bynnag, bydd angen cwblhau Datganiad(au) Euogfarn Troseddol Myfyriwr – Profforma, a'i ddychwelyd i'r Gwasanaethau Cofrestru cyn pen 14 diwrnod gwaith o'i dderbyn. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.​

Yn achos myfyrwyr sy'n dilyn cwrs sy'n dod â nhw i gysylltiad â phlant a/neu oedolion bregus, fel rhan o'r broses hon, efallai y bydd angen i chi gael Datgeliad DBS newydd.

​​Gall methu â datgan euogfarn droseddol arwain at eich diarddel o'r brifysgol.

Bydd yr holl wybodaeth sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol yn cael ei thrin yn sensitif, yn gyfrinachol ac unol â'r egwyddorion Diogelu Data a nodir yn y GDPR a'n Polisïau a'n Gweithdrefnau Diogelu Data mewnol. Ceir gwybodaeth am ein Polisïau Diogelu Data a Bod yn Agored yma neu cysylltwch â dataprotection@cardiffmet.ac.uk.

Os cewch eich dyfarnu'n euog o drosedd yn ystod eich cyfnod astudio, neu os ydych yn destun ymchwiliad gan yr Heddlu am gyflawni trosedd o'r fath, gofynnir i chi ddatgelu wrth y Gwasanaethau Cofrestru cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn ofynnol gan fod gan y Brifysgol ddyletswydd gofal i'r holl fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr, a byddai'r Gwasanaethau Myfyrwyr eisiau sicrhau eich bod yn cael y cymorth lles priodol. Os ydych chi'n astudio cwrs y cynhaliwyd gwiriad DBS ar ei gyfer, byddwch wedi cael gwybod am weithdrefnau perthnasol ar gyfer datgelu trosedd.​

Pe bai amgylchiadau ffeithiol euogfarn droseddol yn dod i’r golwg na thynnwyd sylw’r Brifysgol ati yn unol â’r drefn uchod, cyfeirir at y Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr.​

It is possible that students studying within other academic areas will be asked to carry out a criminal records check as part of their course, but you should not carry one out unless asked to do so.

Previous or current Cardiff Met students, who have undertaken a DBS check through Cardiff Met for a previous course, will need to contact Admissions at askadmissions@cardiffmet.ac.uk to confirm if a new check is required.

Placements or Dissertations

If you are a current enrolled student and wish to undertake a placement or dissertation, which involves working with children or vulnerable adults, as part of your course, you may require a DBS Check.  Please refer to the Non-standard request for a DBS Check form which needs to be completed and returned to Admissions (askadmissions@cardiffmet.ac.ukto determine the level of check required .  Alternatively, you are welcome to bring the form to Cardiff Met which are based in the main reception of either campus.   Please note: this form is not relevant for applicants who are yet to enrol and begin their course. 

Returning From Suspension of Studies

If you are returning to your studies at Cardiff Metropolitan University on a course that requires a DBS check, you will need to complete a new DBS for the start of your programme.

If you have not been sent any information in relation to undertaking this check though the electronic process please contact Admissions on 029 2041 6010.  

Part Time Students

For those students who undertake a part time course at Cardiff Metropolitan University which requires a DBS check, Cardiff Metropolitan University does not take responsibility for undertaking this, for the majority of its programmes, as the responsibility lies with the employing organisation.  All institutions and organisation in the UK that have a responsibility towards children and vulnerable adults in their care, are required to ensure the safety of those individual by checking that any employee or trainee student coming into contact with them has DBS clearance. Although the duty of responsibility lies with the employing institution students are encouraged to inform their employer about their current DBS status and how recently the check has been carried out.