Euogfarnau Troseddol
Mae Met Caerdydd yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn annog poblogaeth ehangach o fyfyrwyr trwy groesawu ceisiadau gan bawb sydd â diddordeb mewn addysg uwch, o bob cefndir, sydd â’r potensial a’r penderfyniad i lwyddo.
Mae gwahanol weithdrefnau ar gyfer datgelu gwybodaeth sy’n ymwneud ag euogfarnau troseddol, yn dibynnu ar y rhaglen y gwnaed cais amdani. Nid yw cael euogfarn droseddol yn rwystr awtomatig ar gyfer astudio ar ein rhaglenni ac rydym yn croesawu unrhyw ymholiadau. Os ydych am siarad â rhywun yn gyfrinachol cyn, neu yn ystod eich proses ymgeisio, cysylltwch â Derbyniadau ar 029 2041 6014.
Rhaglenni sy’n gofyn am Wiriad DBS
Gofynnir i ymgeiswyr sy’n gwneud cais trwy UCAS neu’n uniongyrchol i’r sefydliad am gyrsiau sy’n dod â nhw i gysylltiad â phlant a/neu oedolion agored i niwed, nodi a oes ganddynt gollfarn berthnasol sydd wedi darfod neu heb ddarfod a fyddai’n ymddangos ar wiriad cofnodion troseddol uwch.
Mae’r broses o sefydlu euogfarnau troseddol yn cael ei chyflawni gan weithdrefn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer cyrsiau sy’n gofyn am wiriad cofnodion troseddol. Rhestrir gwybodaeth mewn perthynas ag a yw gwiriad DBS yn ofyniad cwrs o dan adran gofynion mynediad gwybodaeth y cwrs ar wefan Met Caerdydd.
Yn ystod y broses gofrestru gofynnir i ymgeiswyr a myfyrwyr cyfredol ar gyrsiau sydd angen gwiriad cofnodion troseddol, ddatgelu unrhyw gollfarnau perthnasol sydd wedi treulio neu heb eu datgelu a allai effeithio ar eu hastudiaethau yn y Brifysgol.
Rhaglenni nad oes angen Gwiriad DBS arnynt
Gofynnir i ymgeiswyr a myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau nad ydynt yn dod â nhw i gysylltiad â phlant a/neu oedolion agored i niwed hysbysu’r Brifysgol os ydynt yn rhwym wrth gyfyngiadau neu a oes ganddynt ofynion prawf i’w cyflawni yn dilyn euogfarn. Gofynnir i ymgeiswyr am y wybodaeth hon ar ôl iddynt gael cynnig lle yn y sefydliad a gofynnir iddynt gwblhau’r Datganiad(au) Euogfarn Droseddol Ymgeisydd – Profforma.
Gofynnir hefyd i ymgeiswyr a myfyrwyr presennol ar gyrsiau lle nad oes angen gwiriad cofnodion troseddol hysbysu’r Brifysgol os ydynt yn rhwym wrth gyfyngiadau neu a oes ganddynt ofynion prawf i’w cyflawni yn dilyn euogfarn.