Skip to content

Dogfennau Ategol MBA

Ni fydd ceisiadau’n cael eu hanfon at dîm y rhaglen nes bod yr holl wybodaeth ofynnol wedi’i derbyn. Rhaid uwchlwytho’r wybodaeth ganlynol ar ddiwedd eich cais ar-lein, ond os nad yw hyn yn bosibl, uwchlwythwch nodyn i ddweud bod y wybodaeth yn cael ei hanfon ar wahân:

  • 2 dystlythyr y mae’n ofynnol eu dychwelyd i’r adran Dderbyniadau, wedi’u llofnodi ac ar bapur pennawd
  • copïau o dystysgrifau a thrawsgrifiadau cymhwyster
  • datganiad personol
  • CV cyfredol
  • IELTS 6.0 (heb unrhyw elfen unigol o dan 5.5) neu gadarnhad cyfatebol (os yw’n berthnasol)