Skip to content

Cyfweliadau Israddedigion

Mae nifer o'n rhaglenni israddedig yn cynnwys cyfweliad fel rhan o'r broses ymgeisio. Ar ôl i chi wneud cais i Met Caerdydd, os cewch eich gwahodd am gyfweliad, byddwch yn derbyn e-bost gyda'ch gwahoddiad.

Er mwyn sicrhau eich bod yn hollol barod ar gyfer eich cyfweliad, darllenwch y wybodaeth ychwanegol bwysig y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohoni cyn mynychu.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal trwy MS Teams neu wyneb yn wyneb ar y campws. Darllenwch y gwybodaeth isod i wneud yn siwr eich bod yn ymwybodol o'r trefniadau ar gyfer eich cyfweliad.

Anfonir e-bost atoch gyda manylion eich cyfweliad a chyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno'ch portffolio. Gallwch hefyd weld awgrymiadau pellach.

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

​Bydd eich cyfweliad yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb ar gampws Cyncoed. Sicrhewch eich bod yn darllen y wybodaeth ganlynol cyn eich cyfweliad:​

BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Tystysgrif Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Addysg Gynradd (3-11) gyda SAC

Cynhelir eich cyfweliad drwy MS Teams a byddwch yn derbyn e-bost yn cynnwys gwybodaeth ar y broses gyfweld a sut i baratoi ar gyfer y diwrnod.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen y wybodaeth gan ei bod hi’n hanfodol eich bod yn gyfarwydd â’r wybodaeth cyn mynychu eich cyfweliad, oherwydd bydd hefyd yn cynnwys Tasgau Llythrennedd a Rhifedd Cyn Cyfweliad.

Byddwch hefyd yn derbyn gwahoddiad MS Teams yn agosach at ddyddiad y cyfweliad, yn neilltuo amser penodol i chi.

Gwaith Cymdeithasol

Bydd y cyfweliadau Gwaith Cymdeithasol yn cael eu cynnal ar gampws Llandaf. Byddwch yn ymwybodol y bydd gofyn i chi fod ar y campws o 9.30am - 4.30pm.​

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol Cymru cyn y cyfweliad a chwblhewch y ffurflenni gofynnol isod:

BSc (Anrh) ​Gwaith Cymdeithasol

Hunan Ddatganiad (PDF) / Hunan Ddatganiad (Word)

Cwblhewch a dychwelwch y ffurflenni hyn i socialwork@cardiffmet.ac.uk.

Anfonir e-bost atoch gyda manylion pellach am eich cyfweliad. Agorwch y ddolen isod sy'n ymwneud â'ch cwrs i gael rhagor o wybodaeth bwysig cyn eich cyfweliad.​

Addasiadau rhesymol ar gyfer cyfweliad

Os oes gennych unrhyw ofynion ychwanegol, rhowch wybod i ni ar e-bost cyn gynted â phosibl ar applications@cardiffmet.ac.uk​ yn amlinellu eich anghenion penodol, fel y gellir rhoi unrhyw addasiadau rhesymol ar waith a gwneud trefniadau priodol.

Ni allaf ddod i'm cyfweliad

Os na allwch fynychu ar y dyddiad neu'r amser a roddwyd i chi, anfonwch e-bost atom ar applications@cardiffmet.ac.uk i ofyn am ddyddiad newydd. Fe gewch wybod y dyddiad newydd trwy UCAS.

Os bydd yn rhaid i Met Caerdydd aildrefnu eich cyfweliad ar fyr rybudd, byddwn yn eich hysbysu'n uniongyrchol trwy e-bost.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn, neu ynghylch eich cyfweliad, cysylltwch â Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch applications@cardiffmet.ac.uk.