Ar ôl i chi Wneud Cais
Ar ôl derbyn cynnig gan Met Caerdydd, dylech ddefnyddio'r adran hon i ddod o hyd i fanylion ynglŷn â phopeth a ddisgwylir gennych rhwng nawr a dechrau eich rhaglen.
Byddwn hefyd yn anfon e-bost atoch ar adegau pwysig drwy gydol y flwyddyn i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sydd angen i chi ei wybod ynglŷn â’ch cais - felly daliwch i wirio'r e-byst hynny! Cofiwch hefyd ei bod yn bosibl i’n negeseuon e-bost ymddangos yn eich ffolderau 'Spam' neu 'Sbwriel', felly gwiriwch y rhain i osgoi colli unrhyw wybodaeth allweddol am eich cais.
Os byddwch chi'n newid eich manylion cyswllt, mae'n bwysig eich bod chi'n diweddaru'r rhain gydag UCAS rhag i chi fethu unrhyw wybodaeth bwysig. Yn y cyfamser os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gellwch gysylltu â Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu drwy e-bostio holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Cyhoeddir gofynion mynediad ar gyfer cyrsiau ar wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ogystal ag UCAS a phrosbectws y Brifysgol.
Mae Met Caerdydd yn derbyn ystod eang o gymwysterau gan ein bod yn cydnabod bod gan ymgeiswyr gyfoeth o brofiadau gwahanol ac efallai eu bod wedi dilyn gwahanol lwybrau addysgol. Caiff ceisiadau eu hystyried ar sail unigol ac wrth wneud cynigion rydym yn ystyried ystod o ffactorau yn ychwanegol at ganlyniadau arholiadau ffurfiol, neu mewn rhai achosion yn lle hynny.
Ar gyfer ymgeiswyr israddedig mae’r Brifysgol yn deall bod graddau a ragwelir yn (fras) amcan o’ch graddau. Byddwn yn ystyried ymgeiswyr sydd â graddau a ragwelir sy’n disgyn yn is na’r meini prawf mynediad cyhoeddedig drwy ystyried yr holl wybodaeth yn y cais.
Gall astudio blaenorol, profiad gwaith a hyfforddiant hefyd gyfrif fel credyd tuag at eich rhaglen astudio, gelwir hyn yn Gydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a chyfeiriwch at yr adran ar Ddysgu Blaenorol. Rydym yn annog myfyrwyr o bob oed ac o bob cefndir i astudio gyda ni ac yn gwybod y gellir cael cyflawniad sylweddol drwy waith neu astudiaeth breifat.
Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau y dylai pawb sydd â’r penderfyniad, y sgiliau a’r awydd i gael mynediad i Addysg Uwch allu gwneud hynny. Rydym yn defnyddio gwybodaeth a ddarperir ar eich cais a data ychwanegol a gesglir fel rhan o’r broses dderbyn. Mae hyn yn caniatáu inni gydnabod cyflawniad a photensial ymgeisydd i lwyddo yng nghyd-destun eu cefndir a’u profiad. Ystyrir gwybodaeth fel rhan o’r broses gwneud penderfyniadau, neu fel rhan o’r broses gadarnhau pan gyflawnir cymwysterau.
Mae cynigion a wneir yn seiliedig ar dariff UCAS ar gyfer y mwyafrif o gyrsiau a gall gofynion mynediad gynnwys ystod o gynigion i ddarparu ar gyfer derbyniadau cyd-destunol a gwahaniaethau o ran cyflawniadau, profiadau a sgiliau a gyflawnwyd. Ystyrir cymhelliant a photensial hefyd ar gyfer rhai cyrsiau drwy gyfweliad neu asesu portffolio neu ddeunyddiau ysgrifenedig.
Gellir gweld gwahaniaethau rhwng cymwysterau mynediad, cymwysterau a hysbysebir ar gyfer mynediad a’r hyn a dderbynnir ar gyfer mynediad i Met Caerdydd. Mae hyn oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys dangosyddion cyd-destunol, safon genedlaethol cyffredinol o fewn cymwysterau a pherthnasedd i’r cwrs, niferoedd targed ar gyfer cyrsiau a galw, amgylchiadau lliniarol, cyflogaeth yn ogystal â phrofiad gwaith a gwaith gwirfoddol, cymwysterau proffesiynol (cysylltiedig â diwydiant) a gyflawnwyd, cyflawniadau chwaraeon, arddangos sgiliau/cyflawniadau, e.e., portffolio ac achrediad dysgu blaenorol.
Mae rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad ym Mholisi Derbyniadau Met Caerdydd a gellir cael gwybodaeth gyd-destunol o Bolisi Derbyniadau Cyd-destunol Met Caerdydd.
Gellwch weld amodau eich cynnig yn y llythyr cynnig a anfonwyd atoch gan Met Caerdydd.
Os yw eich cynnig yn Amodol ar eich astudiaethau cyfredol, h.y. ar hyn o bryd rydych chi'n ymgymryd â Safon Uwch, BTEC, Mynediad, ac ati. Dylai Derbyniadau eu derbyn yn awtomatig yn ystod yr haf, ar yr amod bod eich Ysgol neu Goleg wedi hysbysu UCAS. Mae angen sganio tystiolaeth o gymwysterau a enillwyd eisoes, megis TGAU, a'u hanfon dros e-bost at Derbyniadau ar offers@cardiffmet.ac.uk i’w gwirio.
Os yw eich cynnig yn amodol ar brawf o gymwysterau yn unig, mae angen i chi anfon bob cymwysterau a nodirr ar eich cais UCAS at Derbyniadau. Gallwch wneud hyn trwy sganio'ch tystysgrifau a'u hanfon dros e-bost at offers@cardiffmet.ac.uk. Fel arall, gwllwch eu cyflwyno drwy un o'n parth-gau:
- parth-g Prif Dderbynfa Campws Llandaf, Llandaf, 200 Western Avenue, CF5 2YB
- parth-g Prif Dderbynfa Campws Cyncoed, Cyncoed, Cyncoed Road, CF23 6XD
Er ein bod yn derbyn llungopïau o dystysgrifau, gallwn ofyn am y rhai gwreiddiol os nad yw'r rhain yn cael eu hystyried yn ddigonol. Os ydych chi'n anfon eich datganiad canlyniadau yn hytrach na thystysgrifau, RHAID i'r Ysgol neu'r Coleg lofnodi a stampio'r dogfennau hyn.
Os oes angen datgeliad DBS ar gyfer eich rhaglen, bydd hyn hefyd yn amod o'ch cynnig. Fe'ch hysbysir drwy e-bost pryd a sut y dylech gwblhau'r broses hon ar ôl i chi ddewis Met Caerdydd fel eich dewis Cadarn. I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar y broses, eich i'n tudalen Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Os ydych wedi dewis rhaglen radd a ariennir gan Fwrsariaeth y GIG, bydd angen i chi gofrestru ar-lein gyda GIG Cymru drwy BOSS (System Gymorth Bwrsariaeth Ar-lein), ar yr amod eich bod wedi dewis Met Caerdydd fel eich dewis Cadarn.
Os ydych wedi dewis rhaglen sy'n gofyn am Sgrinio Iechyd Galwedigaethol, fe’ch hysbysir o hyn yn eich amodau cynnig, ac ar ôl i chi ein dewis ni fel eich dewis Cadarn, anfonir y manylion atoch yn electronig.
Os byddwch o dan 18 oed pan fyddwch yn cyrraedd y campws, bydd angen i chi lenwi ein Ffurflen Cydsynio, fel y nodir ym manylion eich cynnig. Gellwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein polisi myfyrwyr dan 18 oed a'r ffurflen berthnasol i'w chwblhau yma.
Os ydych chi wedi derbyn cynnig gan un o'n colegau partner - Coleg Caerdydd a'r Fro neu Goleg Pen-y-bont ar Ogwr - bydd angen i chi fod yn ymwybodol o leoliad eich cwrs. Mae'r cyrsiau hyn wedi eu lleoli yn y coleg ei hun yn hytrach nag ar brif gampws Met Caerdydd. Rydym wedi rhestru'r lleoliadau isod ar eich cyfer gyda manylion cyswllt os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad | Cyswllt Cwrs | |
---|---|---|
BA (Hons) Photographic Practice | Arts Academy 45 Trade Street (CF10 5DJ) |
Shaun McDermott smcdermott@bridgend.ac.uk |
BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol | Campws Ffordd y Frenhines (CF31 3UT) | Roy Mayo rmayo@bridgend.ac.uk |
Coleg Caerdydd a'r Fro
| Lleoliad | Cyswllt Cwrs |
---|---|---|
Gradd Sylfaen mewn Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Lecwith (CF11 8AZ) | Kayley John kjohn@cavc.ac.uk |
Gradd Sylfaen mewn Cyflyru Chwaraeon, Adsefydlu a Thylino | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Leckwith (CF11 8AZ) | Wesley Sleat wsleat@cavc.ac.uk |
Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Tecstilau Cyfoes | Campws y Barri Ffordd Colcot (CF62 8YJ) |
info@cavc.ac.uk 02920 250250 |
Gradd Sylfaen mewn Cyfathrebu Graffig | Campws Canol Dinas Caerdydd Ffordd Dumballs (CF10 5FE) |
info@cavc.ac.uk 02920 250250 |
Gradd Sylfaen mewn Dylunio Cynnyrch | Campws Canol Dinas Caerdydd Ffordd Dumballs (CF10 5FE) |
info@cavc.ac.uk 02920 250250 |
Gradd Sylfaen mewn Serameg | Campws y Barri Ffordd Colcot (CF62 8YJ) |
info@cavc.ac.uk 02920 250250 |
Ar ôl i chi dderbyn cynnig gan Met Caerdydd, a phenderfynu derbyn y cynnig, bydd angen i ni weld tystiolaeth o'r holl gymwysterau a restrir ar eich cais. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddarparu prawf o gymwysterau i'w gweld yma.
Rhaid i ni fod wedi gwirio pob cymhwyster cyn 31 Awst. Os nad ydym wedi gallu gwirio'ch cymwysterau, gallai hyn arwain at beidio â chadarnhau eich lle gan arwain at fethu â chasglu eich MetCard yn ystod yr wythnos Sefydlu.
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd ar y rhaglenni canlynol gwblhau Holiadur Iechyd Galwedigaethol CYN COFRESTRU; mynychu apwyntiad Sgrinio Iechyd Galwedigaethol unwaith ar y campws, yn ogystal â, o bosibl, chymryd rhan mewn rhaglen frechu orfodol cyn mynychu unrhyw leoliadau clinigol, yn amodol ar ofynion eu cwrs:
Gwyddor Gofal Iechyd BSc
Mae angen cytuno i sgrinio iechyd galwedigaethol a fydd yn cynnwys imiwneiddio i ganiatáu ymgymryd â lleoliadau gwaith. Bydd methu â chwrdd â'r gofyniad hwn yn arwain at dynnu ymgeiswyr o'r rhaglen.
Maeth Dynol a Dieteg BSc
Mae angen cytuno i sgrinio iechyd galwedigaethol a fydd yn cynnwys imiwneiddio i ganiatáu ymgymryd â lleoliadau gwaith. Bydd myfyrwyr sy'n methu â chwrdd â gofynion iechyd galwedigaethol yn ystod y cam sgrinio yn cael eu tynnu o'r cwrs.
Podiatreg BSc
Sylwch, gofyniad gorfodol i fyfyrwyr sy'n ymuno â'r rhaglen yw eu bod yn cytuno i sgrinio iechyd galwedigaethol a chymryd rhan mewn rhaglen frechu. Mae hwn yn ofyniad Iechyd a Diogelwch er mswyn sicrhau diogelwch myfyrwyr yn y lleoliad clinigol.
Therapi Lleferydd ac Iaith BSc
Mae angen cytuno i sgrinio iechyd galwedigaethol a fydd yn cynnwys imiwneiddio er mwyn gallu ymgymryd â lleoliadau.
Anfonir gwybodaeth bellach at ymgeiswyr ynglŷn â sut i gwblhau a dychwelyd yr Holiadur Iechyd Galwedigaethol ar ôl iddynt ateb yn Gadarn. Darperir manylion ynglŷn ag apwyntiad Sgrinio cychwynnol a’r angen am frechiadau yn yr apwyntiad Sgrinio, unwaith y byddant wedi cyrraedd y campws.
Cyfeiriwch at y dudlaen we yma i gael manylion llawn am raglen Asesiad Iechyd Galwedigaethol Met Caerdydd.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â chwblhau'r Holiadur Iechyd Galwedigaethol at Derbyniadau ar holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar ôl i chi dderbyn naill ai gynnig Diamod neu Amodol oddi wrthym, ac o fis Ebrill ymlaen, gellwch wneud cais am le mewn Neuaddau Preswyl gan ddefnyddio'r broses ymgeisio ar-lein. Cyfeiriwch at Archebu Llety Haf i gael mwy o wybodaeth. Gwarantir llety i'r rhai sy'n gwneud cais cyn diwedd mis Mai.
Os ydych wedi nodi anabledd ar eich cais, neu os ydych am siarad â rhywun ynglŷn â chefnogaeth yn ystod eich astudiaethau, cysylltwch â'n Gwasanaeth Anabledd ar ffôn ar 029 2041 6170 neu e-bost ar disability@cardiffmet.ac.uk.
Mae myfyrwyr Met Caerdydd sy'n cwrdd â'r meini prawf, yn sicr o gael llety drwy gydol y flwyddyn mewn neuaddau sy'n eiddo i'r Brifysgol yn ystod cyfnod eu cwrs, a bwrsariaeth, yn ogystal â derbyn gwasanaethau myfyrwyr a chefnogaeth mentor. Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at ein Gwasanaethau Myfyrwyr.
Os ydych chi'n fyfyriwr o Gymru sy’n edrych i wneud cais am gyllid myfyrwyr, bydd angen i chi gofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru www.studentfinancewales.co.uk. Argymhellir eich bod yn gwneud cais erbyn dechrau mis Mai i sicrhau eich bod yn derbyn eich rhandaliad cyntaf yn barod ar gyfer dechrau'r tymor.
Os ydych chi'n fyfyriwr o Loegr sy’n edrych i wneud cais am gyllid myfyrwyr, cyfeiriwch at y wybodaeth ar wefan gov.uk ar y ddolen ganlynol www.gov.uk/studentfinance.
Os ydych chi'n fyfyriwr o'r UE sy’n edrych i wneud cais am gyllid myfyrwyr i astudio yn Met Caerdydd, bydd angen i chi gofrestru gyda Cyllid Myfyrwyr drwy wefan gov.uk: www.gov.uk/student-finance/eu-students. Argymhellir eich bod yn gwneud cais erbyn dechrau mis Mai er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich rhandaliad cyntaf yn barod ar gyfer dechrau'r tymor.
Os ydych chi'n ymgeisydd o Ogledd Iwerddon sy’n edrych i wneud cais am gyllid myfyrwyr, cyfeiriwch at y wybodaeth ar www.studentfinanceni.co.uk.
Os ydych chi'n ymgeisydd o'r Alban sy'n edrych i wneud cais am gyllid myfyrwyr, cyfeiriwch at y wybodaeth ar www.saas.gov.uk.
I gael gwybodaeth am Fwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Met Caerdydd a allai fod ar gael i chi hefyd, edrychwch ar www.metcaerdydd.ac.uk/scholarships.
I gael gwybodaeth am Fwrsariaethau'r GIG, cliciwch yma.
O fis Gorffennaf ymlaen, bydd Derbyniadau yn dechrau derbyn canlyniadau BTEC yn uniongyrchol oddi wrth UCAS. Cyn belled â bod Met Caerdydd wedi derbyn eich canlyniadau a’ch bod wedi cwrdd â’ch amodau cynnig, byddwn yn cadarnhau eich lle ar-lein i chi.
Ganol Awst, bydd Derbyniadau yn derbyn canlyniadau Diploma Mynediad i AU a chanlyniadau Safon Uwch yn uniongyrchol oddi wrth UCAS. Cyn belled â bod Met Caerdydd wedi derbyn eich canlyniadau a'ch bod wedi cwrdd â'ch amodau cynnig, byddwn yn cadarnhau eich lle drwy UCAS.
Yn anffodus, mae Met Caerdydd yn wynebu sawl sefyllfa lle na dderbynnir bob canlyniad, neu lle mae anghysondebau yn y canlyniadau a gyflwynwyd, ac mewn rhai achosion ceir oedi cyn cymhwyso'r cymhwyster llawn. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae angen i ni fedru cysylltu â chi.
Os na chaiff eich lle ei gadarnhau erbyn canol mis Awst, cysylltwch â ni i ddarganfod pam. Gall hyn fod oherwydd nad ydym wedi derbyn eich canlyniadau, ac yn yr achos hwnnw, gellwch anfon tystiolaeth o ganlyniadau eich arholiadau atom. Os nad ydych wedi derbyn eich tystysgrifau eto, bydd cadarnhad uniongyrchol gan eich Ysgol neu Goleg yn ddigonol, ar yr amod ei fod ar ffurf llythyr swyddogol.
Os nad ydych wedi cwrdd ag amodau eich cynnig a bod eich lle yn dal yn Amodol, cysylltwch â ni i wirio ein bod wedi derbyn eich holl ganlyniadau. Ar ôl i ni dderbyn eich holl ganlyniadau, bydd eich cais yn cael ei gyfeirio at Gyfarwyddwr y Rhaglen i wneud penderfyniad terfynol amdano.
Anfonir eich Pecyn Ymuno Myfyrwyr atoch i'w ddefnyddio ar y cyd â'n gwefan Myfyrwyr Newydd bwrpasol, lle gellwch lawrlwytho’r wybodaeth ymuno sy'n ymwneud â'r Wythnos Sefydlu. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen y wybodaeth hon.
Cofiwch, os nad ydych eto wedi anfon tystiolaeth o'ch TGAU, gwnewch hynny cyn dechrau'r cwrs.
Byddwch chi’n barod i gofrestru pan fydd yr holl amodau cynnig wedi'u bodloni ac e-bost wedi ei anfon atoch gyda manylion ynglŷn â sut i gwblhau'r broses. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.metcaerdydd.ac.uk/enrolment.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â chofrestru ar-lein, cysylltwch ag enrolment@cardiffmet.ac.uk neu ffoniwch 029 2020 5669.
Os yw eich lle wedi'i gadarnhau, ond na anfonwyd eich manylion cofrestru atoch, gallai hyn fod oherwydd nad yw eich datgeliad DBS neu eich cliriad Sgrinio Iechyd Galwedigaethol wedi eu cwblhau.
Dylech fod wedi cofrestru cyn mynychu eich Wythnos Sefydlu.
Mae'r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod y wybodaeth a ddarperir i ymgeiswyr ynglŷn
â rhaglenni sy'n cael eu cynnig mor gywir a chyfredol â phosibl. Fodd bynnag, mae rhaglenni astudio’n cael eu hadolygu'n barhaus ac mae'n ddigon posibl y bydd rhai newidiadau’n digwydd rhwng amser cyhoeddi’r deunydd a'r adeg y bydd y myfyriwr yn cychwyn ar eu rhaglen. Mae angen isafswm fyfyrwyr er mwyn rhedeg rhaglenni Prifysgol hefyd, h.y. mae angen i nifer penodol o fyfyrwyr ymgymryd â'r rhaglen er mwyn iddi fod yn hyfyw. Bwriad nodi lleiafswm o fyfyrwyr ar gyfer rhaglenni yw cyfoethogi profiad y myfyriwr.
Os digwydd newidiadau neu pan ddaw rhaglen i ben, hysbysir ymgeiswyr o hynny cyn gynted â phosibl drwy lythyr, yn ddelfrydol,. cyn iddynt dderbyn yynnig o le, fel bod cyfle i ystyried rhaglen arall yn Met Caerdydd neu rywle arall. Os penderfynir dod â rhaglen i ben ar ôl i ymgeiswyr dderbyn cynnig lle, bydd Derbyniadau yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewisiadau amgen perthnasol a darparu cymorth i ymgeiswyr ddod o hyd i'r dewis mwyaf addas hwnnw.
I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i raglenni, cyfeiriwch at yr ymwadiad a nodir yn y Llawlyfr Myfyrwyr y byddwch yn ei dderbyn fel rhan o'ch cyfarwyddiadau ymuno yn ystod yr Haf.
Rhaid dilysu pob rhaglen newydd yn y Brifysgol, a'r diben yw sicrhau fod y rhaglen arfaethedig yn cyd-fynd â Chenhadaeth y Brifysgol a'i chynnwys yn adlewyrchu lefelau priodol o safonau ac ansawdd academaidd. Cewch eich hysbysu o unrhyw newidiadau a wneir i raglen yn ystod y digwyddiad dilysu a chaiff ein tudalennau cwrs eu diweddaru.
Mae'n bwysig eich bod yn deall Telerau ac Amodau eich cynnig i wneud penderfyniad hyddysg.