Asesu Statws Ffioedd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych yn eich ffurflen gais i bennu lefel y ffioedd a godir arnoch am eich dewis gwrs. Rydym yn galw hyn yn Statws Ffioedd ac rydym yn dosbarthu myfyrwyr fel naill ai Statws Cartref neu Ryngwladol. Mae'r broses hon yn berthnasol i bob ymgeisydd ar gyfer ein rhaglenni prif gampws yn ogystal â'n partneriaid masnachfraint.
Mae’r rheolau ynglyn â phwy sy’n talu ffioedd ‘cartref’ ar gyfer cyrsiau addysg uwch yng Nghymru yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Gall y rheoliadau fod yn anodd eu deall, felly mae Cyngor y Deyrnas Unedig ar gyfer Materion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA) wedi datblygu canllaw cynhwysfawr i helpu ymgeiswyr ac aseswyr ffioedd i ddehongli’r ddeddfwriaeth.
Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae eich statws ffioedd yn cael ei benderfynu gan aelod o'r Tîm Derbyniadau sydd ag arbenigedd perthnasol, gan ddilyn canllawiau UKCISA. Mae gan bob prifysgol rywfaint o ddisgresiwn o ran sut y cymhwysir y canllawiau, sy'n golygu y gall penderfyniadau statws ffioedd amrywio rhwng sefydliadau. Rydym yn cynnal ein hasesiad annibynnol ein hunain ac nid ydym yn ystyried penderfyniadau a wneir gan brifysgolion eraill. Mae ein penderfyniad statws ffioedd yn berthnasol i’ch cais penodol i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn unig ac nid yw’n effeithio ar eich dosbarthiad gyda’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr nac unrhyw sefydliad arall.
Fel arfer pennir eich statws ffioedd ar sail y wybodaeth a ddarperir yn eich cais ffurfiol. Ni allwn asesu eich statws ffioedd cyn derbyn cais ffurfiol, ond gallwch ymweld â gwefan UKCISA am arweiniad pellach ar eich dosbarthiad tebygol.
Os oes angen gwybodaeth ychwanegol i ni allu benderfynu eich statws ffioedd yn gywir, byddwn yn gofyn am Ffurflen Asesu Statws Ffioedd wedi'i chwblhau ynghyd â dogfennau ategol. Dylid llenwi'r ffurflen hon a'i dychwelyd yn brydlon, fel arfer o fewn pythefnos, i'r cyfeiriad e-bost penodedig. Gall methu â dychwelyd y ffurflen a'r ddogfennaeth o fewn yr amserlen a roddwyd arwain at dynnu'ch cais yn ôl.
Ein nod yw adolygu Ffurflenni Asesu Statws Ffioedd wedi'u cwblhau o fewn 10 diwrnod gwaith, er y gall hyn gymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur. Weithiau bydd angen amser ychwanegol ar achosion cymhleth i sicrhau bod penderfyniad cywir yn cael ei wneud.
Os yw'r ffurflen yn anghyflawn neu os oes dogfennaeth ategol ar goll, efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi am eglurhad. Gall hyn oedi'r penderfyniad statws ffioedd a gallai hefyd ein hatal rhag rhoi gwybod am ganlyniad academaidd eich cais. Nid yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw derfynau amser academaidd neu geisiadau a fethwyd o ganlyniad i oedi wrth asesu statws ffioedd.
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad statws ffioedd, gallwch gyflwyno apêl, gyda thystiolaeth ategol, o fewn 14 diwrnod i’r penderfyniad neu cyn cofrestru ar eich cwrs, pa un bynnag sy’n dod gyntaf. Dylid anfon apeliadau trwy e-bost at y Rheolwr Derbyn. Ar ôl cofrestru, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caiff apeliadau eu hystyried, megis os rhoddir statws ffoadur neu ddinasyddiaeth y DU i chi.
Bydd unrhyw addasiadau i'ch statws ffioedd yn berthnasol i'r flwyddyn academaidd nesaf yn unig ac yn ôl disgresiwn y Pennaeth Derbyn. Dylech hysbysu'r Pennaeth Derbyn os bydd eich amgylchiadau'n newid. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i newid statws ffioedd ar unwaith os daw gwybodaeth newydd i'r amlwg sy'n effeithio ar eich dosbarthiad.
Yn gyffredinol, mae ceiswyr lloches yn cael eu dosbarthu fel myfyrwyr rhyngwladol at ddibenion ffioedd oherwydd eu statws preswylio dros dro. Fodd bynnag, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi mynediad i addysg uwch. Felly, codir yr un ffioedd ar geiswyr lloches nad ydynt wedi derbyn ysgoloriaeth â myfyrwyr cartref yn hytrach na'r gyfradd ryngwladol uwch.
Sylwch y gallai cael cenedligrwydd newydd, fel dinasyddiaeth Brydeinig, effeithio ar eich statws ffioedd neu gymhwyster ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr. Os ydych chi neu aelod o'ch teulu â Statws Ffoadur yn ystyried gwneud cais am ddinasyddiaeth, byddwch yn ymwybodol o'r effaith bosibl ar eich statws ffioedd.
Pan ofynnir i chi, efallai y bydd angen i chi ddarparu un neu fwy o’r dogfennau canlynol i gefnogi eich asesiad statws ffioedd:
Prawf o genedligrwydd:
- Sgan/llun o'ch tudalen llun pasbort.
- Tystysgrif gofrestru yn cadarnhau eich statws fel dinesydd Prydeinig.
Prawf o statws mewnfudo:
- cod rhannu UKVI.
- Dwy ochr o’ch trwydded breswylio biometrig.
- Dwy ochr o’ch cerdyn cofrestru cais.
- Llythyr(au) y Swyddfa Gartref.
Prawf o berthynas ag aelod perthnasol o'r teulu:
- Tystysgrif priodas/atodlen partneriaeth sifil.
- Tystysgrif geni/mabwysiadu.
Tystiolaeth o absenoldeb dros dro (os yw'n berthnasol):
- Contract(au) gwaith dros dro yn dangos dyddiadau dechrau a gorffen cyflogaeth.
- Manylion yr holl deithiau dwyffordd i'r DU, gan gynnwys y rheswm dros eich ymweliad a manylion llety.
- Tystiolaeth o berchnogaeth eiddo yn y DU, gan gynnwys prawf ei fod wedi cael ei ddefnyddio fel cartref eich teulu (e.e., dogfennau Treth y Cyngor, biliau cyfleustodau).