Skip to content

Cyngor i Ymgeiswyr

Six young adults stand huddled together outside the Cardiff School of Management as one of them takes a selfie on a mobile phone Six young adults stand huddled together outside the Cardiff School of Management as one of them takes a selfie on a mobile phone
01 - 02

Rydyn ni’n falch iawn eich bod chi’n ystyried gwneud cais am le i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Er mwyn sicrhau eich bod yn llwyddo i wau eich ffordd drwy’r ddrysfa o wybodaeth, ffurflenni a therfynau amser sy’n eich wynebu, rydym wedi casglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gwblhau eich cais at ei gilydd.

Yn yr adran hon o’n gwefan, mae yna feysydd penodol ar gyfer myfyrwyr sy’n gwneud cais am radd israddedig (gyntaf), rhaglen meistr neu ymchwil a chwrs proffesiynol.

Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob oed. Rydym yn ystyried sgiliau a nodweddion a enillwyd o fyd gwaith a phrofiadau bywyd eraill yn ogystal â chymwysterau, a dylid nodi pob un ohonynt ar eich ffurflen gais berthnasol.

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y campws yn fuan!

 

Side view of a student reaching for books on the shelves

Ewch i’n tudalennau Cais Israddedig i gael cyngor a gwybodaeth ar y broses ymgeisio UCAS.

Cardiff Met student photographed in the Cardiff School of Management

Ewch i’n tudalennau cais Ôl-raddedig, Rhan-Amser, Proffesiynol, ac Ymchwil.

Headshot of smiling student in front of colourful background

Ewch i’n tudalennau Cais Hyfforddi Athrawon i gael cyngor ar y broses ymgeisio TAR.