Cymraeg>Astudio gyda ni>Sut i wneud cais

Sut i wneud cais

 

​​

​Mae sawl ffordd o wneud cais am le ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r drefn gywir er mwyn sicrhau bod eich cais yn ein cyrraedd yn ddiogel.

Er mwyn dysgu sut i wneud cais am gwrs, cyfeiriwch at y manylion a roddir yn nisgrifiad y cwrs penodol yr ydych chi am ei astudio – mae hyn yn dweud wrthych pa sefydliad a fydd yn ymdrin â'ch cais. Mae'r canllawiau ar y dudalen hon yn rhoi gwybod i chi sut i gael gafael ar ragor o fanylion am wneud cais.

 

Israddedigion llawn amser

Os ydych chi am ymgeisio am gwrs gradd llawn amser a fyddech cystal â gwneud hynny drwy system Gwasanaeth Derbyn y ​Prifysgolion a'r Colegau (UCAS) yn http://www.ucas.com/ a chliciwch yma am ragor o wybodaeth cyn ymgeisio.

 

Uwchraddio

Os ydych chi'n fyfyriwr ar hyn o bryd, (yn astudio ar Raglen Sylfaen neu HNC/D) ac am uwchraddio i raglen gradd, bydd angen i chi gysylltu â'ch Cyfarwyddwr Rhaglen yn gyntaf a chwblhau Ffurflen Datganiad o Fwriad sydd ar gael yn http://www.cardiffmet.ac.uk/top-up/.

Yna bydd angen i'r Cyfarwyddwr Rhaglen hysbysu'r Gofrestrfa Academaidd os caniateir i chi symud ymlaen. Nid yw'r broses hon yn berthnasol i'r rhai sy'n ymgeisio am BSc Technoleg Ddeintyddol, BSc Gwyddorau Gofal Iechyd, BSc Maetheg Ddynol a Deieteg, BSc Podiatreg, BSc Gwaith Cymdeithasol a BSc Therapi Lleferydd ac Iaith lle mae'n rhaid ymgeisio drwy UCAS (http://www.ucas.com/) gan fod llefydd ar y rhaglenni hyn yn gyfyngedig neu'n cael eu hariannu gan y GIG neu Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH).

Os nad ydych chi wedi mynegi diddordeb i symud ymlaen ac wedi gadael gyda chymhwyster, bydd angen i chi ailymgeisio drwy UCAS (http://www.ucas.com/).

 

'Uwchraddio'n' allanol

Os ydych chi'n fyfyriwr mewn Sefydliad arall sy'n gwneud cais i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i uwchraddio i raglen gradd llawn amser, mae'n rhaid gwneud cais drwy http://www.ucas.com/.

Os ydych chi'n gwneud cais i uwchraddio i raglen ran-amser gallwch chi wneud cais yn uniongyrchol i Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Lawrlwythwch Ffurflen Gais (mae angen Adobe Reader ar gyfer PDF)

 

Trosglwyddiadau mewnol

Os ydych chi'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar hyn o bryd sy'n trosglwyddo'n fewnol i raglen arall heb unrhyw seibiant yn yr astudio, bydd angen i chi gysylltu â'r Cyfarwyddwr Rhaglen newydd yn y lle cyntaf er mwyn asesu eich addasrwydd.

Os cytunir i'ch trosglwyddo, bydd angen i chi ofyn i Diwtor eich Rhaglen flaenorol gwblhau ffurflen drosglwyddo a hysbysu'r Gofrestrfa Academaidd sy'n gallu addasu manylion eich rhaglen yn y system myfyrwyr.

Nid oes angen i chi ddychwelyd i'r broses Dderbyniadau.

 

Trosglwyddiadau allanol

Os ydych chi'n trosglwyddo i Brifysgol Metropolitan Caerdydd o Sefydliad arall i raglen radd llawn amser, dylid gwneud ceisiadau drwy http://www.ucas.com/.

Gellir cyflwyno ceisiadau rhan-amser / ôl-radd (ac eithrio TAR Cynradd ac Uwchradd), yn uniongyrchol i Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Lawrlwythwch Ffurflen Gais (Mae angen Adobe Reader ar gyfer PDF)

 

Myfyrwyr rhan-amser

Dylid cyflwyno ceisiadau rhan-amser yn uniongyrchol i'r uned dderbyniadau. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

 

Myfyrwyr ôl-raddedig

Dylid cyflwyno ceisiadau ôl-radd (ac eithrio TAR Cynradd ac Uwchradd) yn uniongyrchol i'r uned dderbyniadau. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

 

Myfyrwyr proffesiynol

Dylid cyflwyno ceisiadau proffesiynol yn uniongyrchol i'r uned dderbyniadau. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth. (Ar wahân i raglenni Gwaith Cymdeithasol ôl-gymhwyso, lle gall ymgeiswyr  wneud cais yma.)

 

TAR: Hyfforddiant Athrawon UCAS

Os ydych chi am wneud cais am gwrs hyfforddiant athrawon TAR a fyddech cystal â gwneud hynny drwy Hyfforddiant Athrawon UCAS yn http://www.ucas.com/

 

Myfyrwyr Ymchwil

Dylid cyflwyno ceisiadau ymchwil yn uniongyrchol i'r uned dderbyniadau. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

 

Gohirio

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn derbyn ceisiadau wedi'u gohirio ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau gradd. Bydd angen i chi nodi eich blwyddyn mynediad berthnasol wrth ymgeisio drwy UCAS a bodloni holl amodau eich cynnig yn y flwyddyn rydych chi'n ymgeisio. O ganlyniad i'r niferoedd a'r llefydd targed cyfyngedig sydd ar gael, nodwch na allwn dderbyn ceisiadau wedi'u gohirio ar gyfer y cyrsiau canlynol - BSc Therapi Lleferydd ac Iaith / BSc Maetheg Ddynol a Deieteg / BSc Gwyddorau Gofal Iechyd / BSc Gwaith Cymdeithasol / BSc Podiatreg.

 

Tynnu'n ôl

Os i chi anfon cais atom a'ch bod wedi cael eich derbyn i raglen gradd llawn amser ond wedi penderfynu tynnu'n ôl, bydd angen i chi ailymgeisio drwy http://www.ucas.com/.