Cymraeg>Astudio gyda ni>Polisiau Derbyn

Polisiau Derbyn

 

​​

​Mae polisi derbyniadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn ceisio derbyn pawb a fyddai'n cael budd o addysg uwch. Caiff ceisiadau eu hystyried ar sail eu rhagoriaeth unigol, ac ystyrir ystod eang o gymwysterau ffurfiol yn ogystal ag unrhyw brofiad gwaith perthnasol.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhoi gwerth ar amrywiaeth ac yn annog poblogaeth ehangach o fyfyrwyr drwy groesawu ceisiadau gan bawb sydd â diddordeb mewn addysg uwch. Rydym ni'n croesawu ceisiadau gan bob grŵp cymdeithasol a phob grŵp o ran hil a'r rhai sydd ag anghenion arbennig neu anableddau. Nodir y wybodaeth hon yn ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sydd ar gael yma. Rydym ni'n dilyn cod ymarfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA - www.qaa.ac.uk/) ar Recriwtio a Derbyniadau hefyd wrth gynnal gweithdrefnau derbyn ac yn dilyn canllawiau'r rhaglen Cefnogi Proffesiynoldeb mewn Derbyniadau (SPA - www.spa.ac.uk/).

Gwneir ceisiadau am gyrsiau gradd llawn amser drwy'r system Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau (UCAS - http://www.ucas.ac.uk/) a gwneir ceisiadau am gyrsiau hyfforddiant athrawon ôl-radd llawn amser drwy Hyfforddiant Athrawon UCAS (UTT - http://www.ucas.ac.uk/). Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn prosesu ei cheisiadau yn ôl systemau a gweithdrefnau UCAS ac UTT. Gwneir ceisiadau am ein cyrsiau rhan-amser, ôl-radd ac ymchwil (ac eithrio hyfforddiant athrawon ôl-radd) yn uniongyrchol gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Am wybodaeth ar sut i wneud cais am y cyrsiau hyn cliciwch yma.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gweithredu gweithdrefn dderbyniadau wedi'i chanoli ar gyfer y rhan fwyaf o'i chyrsiau a dan y weithdrefn hon, ac mae penderfyniadau'n seiliedig ar feini prawf penodol a ddarperir gan diwtoriaid y cyrsiau, cliciwch yma am ragor o wybodaeth. Nid yw hyn yn addas ar gyfer pob cwrs neu gyrsiau sydd angen cyfweliad. Gyda'r achosion hyn, gwneir penderfyniadau gan diwtoriaid y cyrsiau yn unig. Fodd bynnag, mae'r uned dderbyniadau'n cynnal proses ddidoli gychwynnol er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr y gofynion perthnasol. Gwneir yr holl drefniadau ar gyfer cyfweliadau yn yr uned dderbyniadau a nod yr uned yw bod mor hyblyg â phosibl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Cyngor ar gyfer Myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, felly cliciwch yma.

Mae pob trefn o brosesu cynigion yn cael eu gwneud gan yr uned ac anfonir yr holl ohebiaeth o'r adran dan sylw. Mae'r uned yn ymateb i bob ymholiad gan gynnwys adborth ar gyfer ymgeiswyr aflwyddiannus ac mae'n cwblhau'r holl weithdrefnau ar gyfer cadarnhau a chlirio. Am ragor o wybodaeth am y Polisi Adborth, cliciwch yma.

Nod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir i ymgeiswyr am gyrsiau, cyfleusterau, gofynion a gweithdrefnau mynediad mor fanwl a chywir â phosibl. Mae'n ceisio sicrhau hefyd fod pob aelod staff yn cael eu hyfforddi'n barhaus mewn gweithdrefnau derbyn ac mor gwrtais a chymwynasgar â phosibl. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn adolygu a monitro'n rheolaidd yr holl faterion sy'n ymwneud â derbyniadau myfyrwyr er mwyn sicrhau bod y broses mor deg a thryloyw â phosibl drwy gynnal ymchwil i'r farchnad ac adborth. Mae gweithdrefn gwynion ar waith hefyd ar gyfer yr ymgeiswyr hynny nad ydynt yn fodlon â'r gwasanaeth a ddarparwyd. Am ragor o wybodaeth am y gweithdrefnau cwyno ffurfiol, cliciwch yma.

Cyhoeddir yr holl ofynion mynediad ar gyfer cyrsiau ym mhrosbectws ac ar wefan (http://www.cardiffmet.ac.uk/) Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn ogystal â gwefan a chyhoeddiadau UCAS (http://www.ucas.com/). Am wybodaeth am wneud cais i Brifysgol Metropolitan Caerdydd a gwybodaeth gyffredinol cliciwch yma.

Mae'r holl gynigion a wneir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn amodol ar sicrhau y gellir profi bod y cymwysterau a nodwyd ar y cais yn ddilys a bod yr ymgeiswyr wedi cyflawni'r canlyniadau angenrheidiol er mwyn bodloni amodau'r cynnig fel y gall ymgeiswyr gofrestru fel myfyrwyr a chael eu cofrestru gan y Brifysgol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ddilysu cymwysterau. Rydym ni wedi llunio cyfres o gwestiynau cyffredin hefyd a thabl y gellir cyfeirio'n sydyn ato sy'n rhoi sylw i ddilysu cymwysterau. Gallwch gyfeirio ato drwy glicio yma.

Mae derbyniadau'n amodol ar y ffaith bod y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y cais yn gywir.  Bydd llefydd a gynigiwyd i ymgeiswyr nad ydyn nhw'n dilyn y gweithdrefnau ymgeisio perthnasol ar gyfer y Brifysgol, UCAS ac UTT neu sy'n gwneud cais ffug neu dwyllodrus gan gynnwys peidio â datgelu gwybodaeth yn cael eu tynnu'n ôl. A fyddech cystal â chyfeirio at bolisi Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar ymdrin â cheisiadau sy'n cynnwys gwybodaeth ffug neu dwyllodrus - gallwch gyfeirio ato drwy glicio yma.

Mae'r uned dderbyniadau yn rhan o adran Gyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Ewch i www.cardiffmet.ac.uk/aboutus am wybodaeth am fframwaith strategol Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Dylid anfon unrhyw ymholiadau mewn perthynas â derbyniadau a'r polisi derbyniadau i askadmissions@cardiffmet.ac.uk​.