Cymraeg>Astudio gyda ni>Cylllid a Ffioedd Dysgu

Cyllid a Ffioedd Dysgu

 

​​

Cyllid Myfyrwyr

Manylion Cyswllt a Gwybodaeth Bellach

Ffioedd Dysgu Cartref (DU/UE): Ffôn: 029 2041 6083 E-bost: tuitionfees@cardiffmet.ac.uk
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol i Fyfyrwyr : Ffôn: 029 2041 6170 E-bost: financeadvice@cardiffmet.ac.uk
Myfyrwyr Rhyngwladol: Ffôn: 029 2041 6045 E-bost: international@cardiffmet.ac.uk

Dolenni Defnyddiol

Myfyrwyr Cymru: http://www.studentfinancewales.co.uk/
Myfyrwyr Lloegr: www.direct.gov.uk/studentfinance
Myfyrwyr Gogledd Iwerddon: http://www.studentfinanceni.co.uk/
Myfyrwyr yr Alban: http://www.saas.gov.uk/

Cyfrifiannell Cyllid Myfyrwyr Cymru

​Cyfrifiannell Cyllid

Israddedigion (Ffioedd)

Ffioedd Dysgu Israddedigion

Yn 2014, bydd ffioedd dysgu llawn amser ar gyfer israddedigion y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn £9,000. Fodd bynnag, gall myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru ac sy'n dilyn eu cwrs gradd gyntaf fod y gymwys i gael grant ffioedd dysgu gwerth £5,425 gan Lywodraeth Cymru nad oes angen ei ad-dalu (yn amodol ar amodau a thelerau).

Am 'dabl llawn o'r ffioedd​ a manylion y cyrsiau gyda chostau ychwanegol ewch i'r dolenni perthnasol.

Lawrlwytho Gwybodaeth am Ffioedd ar gyfer mynediad 2014 (PDF).

Ariannu eich cyfnod yn y Brifysgol

Mae mynd i'r brifysgol yn fuddsoddiad ariannol sylweddol, ond dylech chi gofio y bydd meddu ar gymhwyster uwch fel gradd yn gwella eich gobeithion o gael swydd, gan ei gwneud yn haws dod o hyd i swydd werth chweil sy'n talu'n dda.

Yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol, bydd gennych chi ddau brif gost: ffioedd dysgu a'ch costau byw. Fel myfyriwr israddedig llawn amser, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer pecyn o gymorth ariannol sy'n cynnwys

Benthyciad ffioedd dysgu.
Benthyciad costau byw.
Grant sy'n seiliedig ar brawf modd nad oes angen ei ad-dalu.

Gallwch chi gyfrifo faint y gallwch chi ei hawlio drwy ddefnyddio un o'r cyfrifyddion cyllid myfyrwyr canlynol:

Myfyrwyr Cymru
Cyfrifydd Cyllid 

Cwestiynau Cyffredin:

Oes angen y cyllid arna i er mwyn talu'r ffioedd dysgu ymlaen llaw?

Nac oes – Bydd y llywodraeth yn darparu benthyciad gydol eich cwrs tair neu bedair blynedd. Caiff ei ad-dalu pan fydd eich cyflog yn uwch na £21,000 y flwyddyn.

Oes mwy nag un math o fenthyciad myfyriwr ar gael?

Oes – gallwch chi wneud cais am ddau fath o fenthyciad gan y llywodraeth. Mae'r cyntaf yn fenthyciad ffioedd dysgu, sy'n cael ei dalu'n awtomatig i'ch prifysgol er mwyn talu am gost eich cwrs. Mae'r ail yn fenthyciad cynhaliaeth, sydd yno i helpu gyda chostau byw (fel llety, llyfrau, bwyd a chostau ychwanegol eraill y gallech eu cael). Telir benthyciadau cynhaliaeth i chi mewn tri rhandal yn ystod y flwyddyn academaidd er mwyn eich helpu i reoli eich arian.

Ydy pawb yn gymwys i dderbyn benthyciad myfyriwr?

Ydy - Mae benthyciadau myfyrwyr (ffioedd dysgu a benthyciadau cynhaliaeth) ar gael i bob myfyriwr cymwys, ewch i'r wefan berthnasol ar sail eich cenedligrwydd (gweler dolenni'r cyfrifydd). Mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael ar gyfer cost lawn eich cwrs, waeth beth yw eich sefyllfa ariannol bersonol. Mae benthyciadau cynhaliaeth ychydig yn wahanol, am eu bod yn cael eu cyfrif ar sail prawf modd (yn ddibynnol ar gyflog cyfunol rhieni'r aelwyd) ac yn cael eu rhoi ar y cyd â grantiau cynhaliaeth (mae'r grantiau'n rhai nad oes rhaid eu had-dalu sy'n golygu na fydd raid i chi eu had-dalu byth).

Pryd ddylwn i wneud cais am y benthyciadau a'r cymorth ariannol hyn?

Os ydych chi am ofalu eich bod yn derbyn rhandaliad cyntaf eich benthyciad (a'ch grant) pan ydych chi'n cychwyn yn y brifysgol, mae'n rhaid i chi ymgeisio am eich cymorth ariannol cyn gynted ag y byddwch chi'n penderfynu gwneud cais i'r brifysgol, a pheidio â disgwyl tan rydych chi'n cael cynnig lle. Mae'n rhaid adnewyddu ceisiadau bob blwyddyn academaidd.

Sut mae cael mwy o wybodaeth a sut mae gwneud cais?

Am ragor o wybodaeth am ariannu eich cyfnod yn y brifysgol ac am wneud cais am y benthyciadau a'r grantiau amrywiol sydd ar gael, ewch i'r wefan isod, gan ddibynnu lle rydych chi'n byw:

Myfyrwyr Cymru: http://www.studentfinancewales.co.uk/
Myfyrwyr Lloegr: www.direct.gov.uk/studentfinance
Myfyrwyr Gogledd Iwerddon: http://www.studentfinanceni.co.uk/
Myfyrwyr yr Alban: http://www.saas.gov.uk/

Efallai yr hoffech chi fwrw golwg dros y canllawiau canlynol hefyd: Ffioedd Dysgu Prifysgol Metropolitan Caerdydd- Cwestiynau Cyffredin.

Gallwch chi gysylltu â'n Gwasanaeth Cynghori Ariannol i Fyfyrwyr hefyd ar Ffôn: 029 2041 6170 neu E-bost: financeadvice@cardiffmet.ac.uk

Yn olaf, cofiwch ddod i'n gweld ar un o'n Diwrnodau Agored ar gyfer israddedigion, lle gallwch chi a'ch rhieni ddysgu mwy am Gyllid Myfyrwyr a gofyn i'n haelodau staff unrhyw gwestiynau a allai fod gennych chi.

Gwasanaeth Cynghori Ariannol i Fyfyrwyr  

Mae ein hadran Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth cymorth petai gennych chi unrhyw gwestiynau am y cymorth a allai fod ar gael i chi tra rydych chi'n astudio. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma neu e-bostiwch: financeadvice@cardiffmet.ac.uk.

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau  

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cynllun o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr gael astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.