Home>Cymraeg>Yr Athro Mohamed Loutfi

Yr Athro Mohamed Loutfi

 

​​

Dirprwy Is-Ganghellor (Rhyngwladol)​​

Mohamed Loutfi yw'r Athro Rhyngwladoli a'r Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladol) sy'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu Strategaeth Rhyngwladoli'r Brifysgol yn y wlad hon a thramor.

Yn genedlaethol, mae'r Athro Loutfi yn aelod o Sefydliad Arweinyddiaeth Grŵp Llywodraethu Cenedlaethol Addysg Uwch a'r British Council - Pwyllgor Llywio Byd-Eang. Yn rhyngwladol, mae'n un o aelodau'r cyngor yn Arsyllfa Magna Carta o Werthoedd a Hawliau Sylfaenol yn Bologna.

Mae ganddo radd BSc mewn Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol, MSc mewn Technoleg Gwybodaeth a PhD mewn Systemau.  Cyn ymuno â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, bu'n Uwch Ddarlithydd, yn Brif Ddarlithydd, ac wedyn yn Bennaeth Addysg Drawswladol ym Mhrifysgol Sunderland, y DU.

Mae'r Athro Loutfi hefyd wedi gweithio ar lawer o brosiectau i'r UE ym maes Diwygio Addysg, Achredu a Sicrhau Ansawdd yn yr Wcráin, Rwsia, Gwlad yr Iorddonen, Libanus a'r Aifft. Mae'n gweithio ar hyn o bryd gyda gweinyddiaethau Addysg Uwch yn Libanus, yr Aifft, Libya, Tiwnisia a Moroco er mwyn datblygu fframwaith ar gyfer meithrin gallu ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Addysg Uwch drwy brofiadau Ewropeaidd yn y maes. Yn ogystal, mae'r Athro Loutfi hefyd yn cydlynu chwe phrosiect Erasmus Mundus; nod y prosiectau hyn yw gwella cydweithrediad sefydliadol ymhlith partneriaid drwy hwyluso cyfnewidfeydd symudedd rhwng myfyrwyr a staff.


Manylion cyswllt:

Ffôn: +44 (0)2920 416714

Ffacs: +44 (0)2920 206928

Ebost: mloutfi@cardiffmet.ac.uk