Hanes y Brifysgol
Sefydlwyd Prifysgol Metropolitan (UWIC gynt) ym 1996 pan ddaeth yn un o golegau Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, mae gwreiddiau Prifysgol Metropolitan Caerdydd yng nghanol yr 1800au, ac mae'n falch iawn o'i hanes. Isod, ceir rhai o'r digwyddiadau pwysig dros y 150 mlynedd ddiwethaf a ffurfiodd y Brifysgol presennol.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.
Swyddfa'r Is-Ganghellor
Mae'r canlynol yn Aelodau o Fwrdd yr Is-Ganghellor, ac maent
yn cynghori'r Is-Ganghellor, fel Prif Weithredwr, ar y gwaith o reoli
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, gan gynnwys cynnig polisïau i Fwrdd y
Llywodraethwyr a sicrhau y caiff penderfyniadau eu cyfleu'n effeithiol.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.
Bwrdd y Llywodraethwyr
Mae gan Fwrdd y Llywodraethwyr ddyletswydd i lywodraethu
Prifysgol Metropolitan Caerdydd er mwyn cyflawni a datblygu ei amcanion
sylfaenol sef addysgu, dysgu ac ymchwilio, a gweithgareddau
cysylltiedig. Swyddogaeth y Bwrdd yw ystyried a chymeradwyo cynllun
strategol Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sy'n nodi nodau ac amcanion
academaidd y Brifysgol, a goruchwylio'r strategaethau ariannol,
ffisegol a staffio sydd eu hangen i'w gyflawni.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.
Gweledigaeth a Chenhadaeth
Gweledigaeth
Nod y Brifysgol yw bod yn un o'r 10 prifysgol ôl-92 orau yn y DU gydag enw da am y canlynol:
- Darpariaeth o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr a chwricwla sy'n berthnasol yn rhyngwladol sy'n hyrwyddo cyflogadwyedd a llwyddiant personol myfyrwyr
- Rhagoriaeth o ran trosglwyddo / datblygu gwybodaeth
- Wedi'i hategu gan ethos cryf o ran gwaith ymchwil ac entrepreneuriaeth
- Creadigrwydd ei staff, ei myfyrwyr a'i graddedigion
- Rhagoriaeth ei hysgolion academaidd, gyda phob un yn chwarae rhan flaenllaw yn ei maes.
Cenhadaeth
- Cynnig cyfleoedd dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr ac sy'n hygyrch, yn hyblyg, yn gynhwysol, yn rhai cydol oes ac o'r safon uchaf
- Cynnig diwylliant lle y gall ymchwil gymwysedig a menter ffynnu
- Datblygu canolfannau rhagoriaeth sefydledig a newydd ym maes addysg broffesiynol, ymchwil gymwysedig a throsglwyddo gwybodaeth
- Cynnig gwasanaethau sy'n diwallu anghenion Cymru a chymunedau ehangach drwy weithio mewn partneriaeth â chyrff yn y ddinas, cyrff cenedlaethol a chyrff rhyngwladol.