Home>Cymraeg>Lleoliad y Campysau

Campysau Prifysgol Metropolitan Caerdydd

​​​​

 

Campws Llandaf

Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhodfa'r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YB

I'w weld yn Google Maps

Mae Campws Llandaf yn gartref i Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Ysgol Reoli Caerdydd ac Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Mae'r campws yn un prysur a bywiog, sydd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon, undeb myfyrwyr, siop ar y safle, bariau coffi, gan gynnwys Costa a Starbucks, a ffreutur. Lleolir y campws oddeutu dwy filltir o ganol y ddinas, gyda nifer o barciau, caeau chwarae o'i hamgylch gan gynnwys y pentref hanesyddol Llandaf. 

 

Sut i gyrraedd

Bws

Yn ystod y tymor, bydd bysus Gwasanaeth Bws Met Rider U1, U2, ac U3/U4 yn teithio bob awr i Landaf o Gampws Cyncoed, y Rhath, Cathays a chanol y ddinas. Mae bysus MetRider i gyd yn stopio tu allan i'r campws.

Mae'r bws rhif 1 / 2 yn teithio i gampws Llandaf pob 30 munud o Dyllgoed. Heath, Rhath a chanol y ddinas.

Gallwch hefyd deithio i gampws Llandaf o Ogledd Llandaf, Tyllgoed, Treganna, neu ganol y ddinas ar y 24/25, y 33/33A/33B, neu'r 60/62, sydd yn stopio wrth ymyl y Black Lion ar Heol Caerdydd, siwrne 10 munud ar droed o'r campws. Gweler gwefan Bws Caerdydd am ragor o wybodaeth.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig pas bws Met Rider i fyfyrwyr a staff, sydd yn cynnig defnydd diderfyn o bob un o fysus Bws Caerdydd o'r 1af o Fedi tan 30ain o Fehefin. Os ydych chi'n defnyddio'r bws yn fwy aml na dau ddiwrnod yr wythnos, fe fydd y pas MetRider yn arbed arian i chi.

Trên

Mae gorsaf drên Waun-Gron oddeutu 20 munud ar droed o gampws Llandaf, ac ar y City Line. Gweler gwefan National Rail am ragor o wybodaeth.

Beic

Mae gan Gaerdydd rhwydwaith da o lwybrau i feics, gan gynnwys nifer o lwybrau beics heb fod ar y ffyrdd. Lleolir campws Llandaf nesaf at Lwybr y Taf, llwybr feics genhedlaeth poblogaidd sy'n mynd o ganol y ddinas mor bell i'r Gogledd a Merthyr Tydfil.

Mae llwybr feics heb draffig yn cysylltu campws Llandaf a champws preswyl Plas Gwyn, gyda darn bach o'r llwybr ar y ffordd rhwng Plas Gwyn a mynedfa'r llwybr feics ar Heol y Bont. Nid yw'r llwybr feics hwn wedi'i oleuo eto, felly rydym yn awgrymu eich bod yn dewis llwybr arall wrth deithio yn ystod y nos.

I gynllunio eich siwrne ar feic i gampws Llandaf, ewch i Cycle Streets. Mae mapiau llwybrau beics hefyd ar gael o dderbynfeydd pob un o gampysau Met Caerdydd.